Amodau Byw: Lle'r Wraig
Er bod llawer o ferched yn mynd allan i weithio cyn priodi - ac i weini fel morwynion yn amlach na heb - wedi priodi, canran isel iawn o wragedd a fyddai'n gyflogedig y tu allan i'r cartref. Y patrwm cyffredinol oedd mai gartref oedd lle y wraig, yn gofalu am y plant ac yn sicrhau y byddai bwyd ar y bwrdd a heddwch ar yr aelwyd pan ddôi ei gŵr adref o'i waith. Âi'r rhan fwyaf o gyflog y chwarelwr yn syth i'w wraig i redeg y tŷ. Fel y mae Alwyn Owen yn cofio am yr arian, 'M'ond gweld nhw a dod â nhw adra oeddan ni.'
Tebyg iawn i'w gilydd o ran dodrefn a safon byw fyddai cartrefi'r chwarelwyr, a phrin iawn oedd yr arian dros ben i brynu unrhyw drimins ychwanegol.
'Gofala am lond dy gwpwrdd o fwyd, glo yn dy gwt, a cadw tŷ yn lân, a dim crandrwydd. Fedri di ddim byta crandrwydd.'
[Cyngor gan dad o chwarelwr i'w ferch ar ddydd ei phriodas.]
Er bod llawer o'r teuluoedd yn y pentrefi o amgylch Llanberis yn cadw tyddynnod bychain ac yn magu ambell i fochyn neu lo, dibynnai'r ardal gyfan ar y diwydiant llechi. Fel y mae Gwilym Davies yn cofio, 'Doedd dim byd ond chwaral. Doedd dim ffactri na dim byd. Chwaral neu plwy te.' Bywyd caled, a oedd yn dreth corfforol ar ddyn, oedd bywyd y chwarelwr, a galluogai sgiliau domestig y wraig i'w gŵr weithio oriau hirach, gan roi cyfle iddo felly ennill ychydig mwy o gyflog. Ond rhaid cofio bod bywyd y wraig yn gorfforol galed hefyd, ar gyfnod pan oedd teulu o chwech neu saith o blant yn gwbl arferol, a'r un peiriant i gael i olchi dillad na glanhau'r tŷ. Cartref oedd ei d? i chwarelwr; i'w wraig, roedd yn weithle hefyd.