Storfeydd, Swyddfa'r Clerc
Yn yr ystafelloedd hyn y gwnaed gwaith gweinyddol y chwarel. Dyma lle cedwid yr offer teliffon a gysylltai gwhanol rannau o'r chwarel â'r gweithdai. Dyma, hefyd, lle'r oedd y storfeydd. Yn y brif storfa, cedwid haearn, dur ac eitemau mawr eraill ar reseli hir. Cedwid hefyd amrywiaeth syfrdanol o sgriwiau, hoelion a wasieri, a phob drôr wedi ei labelu'n gywir.
Ers talwm crogai bwrdd talis wrth y drws yn y fan hon (Mae i'w weld nawr drwy ffenest y porth.) Roedd gan bob dyn a weithiai yn y Gilfach Ddu ei dali ei hun a byddai'n cyflwyno hwnnw ar ddiwedd y dydd. Ni châi dynion oedd yn galw yn y storfeydd fynd i mewn i'r storfeydd eu hunain - roedd yn rhaid iddynt ofyn am yr hyn a geisient wrth ffenest gyfagos. Rhybuddiai arwydd ger llaw na ddylent oedi'n rhy hir!