Y Gweithdy Trwsio a'r Gweithdy Peiriannau
Mae amrywiaeth a maint y peirianwaith sydd i'w weld yma yn rhoi rhyw gymaint o syniad am alluoedd technegol y staff a gyflogid yn y Gilfach Ddu. Yn y gweithdy trwsio mae modd gweld eitemau amrywiol o gasgliad yr amgueddfa. Yn eu plith mae bwyler rhybedog ar gyfer injan fach. Lluniwyd y bwyler hwn yng ngweithdai bwyleri'r cwmni ei hun yn Y Felinheli, ac mae'n rhoi rhyw syniad o'r safon uchel o'r grefft oedd ei hangen i lunio bwyler allan o blatiau rhybedog - un a fedrai wrthsefyll pwysedd dros 100 pwys y fodfedd sgwâr. Ar un o'r meinciau eraill gwelir nifer o ganiau a thuniau, gan gynnwys y tuniau bach crwn a ddefnyddid i roi cyflog i'r chwarelwyr. Lluniwyd y rhain gan of gwyn y chwarel, ac fe'u defnyddid yn bennaf i storio paraffïn neu olew o wahanol fathau. Mae yma hefyd bwmp a ddefnyddid i wthio dŵr i fyny i Ysbyty'r chwarel, rhyw 500 medr i ffwrdd.
Yn y gweithdy peiriannau gwelir turn sy'n dyddio o 1900, a ddefnyddid at dyllu bob math o bethau - o olwynion drwm yr incléin hyd drofyrddau. Mae yma hefyd durn arall, 6.4 metr o hyd, a fyddai'n turnio echelydd trawsyrru a siafftiau gyrru ar gyfer fflyd y cwmni o longau ager. Defnyddid y peiriant slotio, ar y llaw arall, i dorri allweddfâu mewn olwynion gêr a phiniwn, sbrocedi a phwlïau gyrru. Gwelir yma hefyd glorian i bwyso rhaff. Ers talwm y chwarelwr ei hun fyddai'n gyfrifol am dalu a gofalu am ei raffau (yn ogystal â'i ffrwydron, ei gynion a'i dŵls eraill). Talai ar ei ganfed iddo felly gymryd gofal manwl o raffau a fyddai'n ei gynnal ac yntau, o bosib, yn gweithio ar graig gannoedd o fetrau o uchder.
Gallai'r rhan fwyaf o'r peiriannau sydd i'w gweld yn y gweithdai hyn wneud diwrnod da o waith o hyd, ac yn wir defnyddir rhai ohonynt o bryd i'w gilydd.







