Iaith a Thermau'r Chwarel
'Dodd na'm sôn am Sisnag 'de…Cymraeg odd powb 'te wydoch chi.'
Er mai Saesneg a siaredai perchnogion y chwarel a'r stiwardiad gwaith, Cymraeg oedd iaith y 'Lindys' a'r 'Hen Deulu', a honno'n Gymraeg annhebyg i Gymraeg unrhyw ardal arall. Fel unrhyw ddiwydiant arbenigol neu gymdeithas glos, yr oedd gan y chwarel lu o dermau unigryw a roddai gymeriad lliwgar ac arbennig iawn i iaith ardaloedd y chwareli. Dyma flas ar rai ohonynt o chwarel Dinorwic:
Bodiau llwyd: Diffyg yn y llechfaen, ar ffurf marciau hanner cylch fel pen bawd. Golygai na fyddai modd troi'r graig hon yn llechi. Mathau eraill o farc a welid yn y llechfaen oedd dafadd (neu edafedd) a gwniadau.
Canu heddwch: yr olaf o dri chaniad - dynodai bod cyfnod saethu'r graig drosodd am y tro.
Cerrig hogia bach: cerrig llai na phedair modfedd ar ddeg o hyd. Byddai'r rybelwr yn dysgu ei grefft wrth hollti a naddu'r rhain.
Dros Bont Bala : Os oedd dyn yn cael y sac dywedid iddo gael ei yrru 'dros Bont Bala', sef y bont wrth y fynedfa i'r chwarel.
Dyn twll: Chwarelwr sy'n feistr ar y grefft o gael at y graig a'i thrin wedyn.
Ffarwel rock: Craig mor eithriadol o galed nes y byddai'n rhaid troi cefn arni, neu ffarwelio â hi.
Haldiwario: Ffraeo ac ymgecru.
Jac Do: Pan fyddai chwarelwr ar y cyflog isaf dywedid ei bod yn 'Jac Do' arno, hynny yw bod y sefyllfa yn ddu iawn.
Lybeindio: Gweithio'n galed ac egnïol dros ben.
Pen Bryn Sbïo: Bryn bychan rhyw hanner ffordd rhwng y chwarel a'r Tŷ Powdwr, lle cedwid y ffrwydron. Gan fod yno olygfa dda o Lyn Padarn, Llyn Peris a'r Wyddfa roedd yn lle delfrydol i gael hoe fach a mwgyn - gan ofalu, wrth gwrs, gadw'r bag powdwr yn ddigon pell oddi wrth y sigarets!