Ysbrydoli Gwyddoniaeth a Sgiliau Allweddol - Learning: National Museum Cardiff
Diwrnod Datblygiad Proffesiynol Parhaus AM DDIM i athrawon
Dydd Mercher 20 Chwefror, 10am - 3pm
Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2
Bydd y cwrs hwn yn:
- Helpu i ddatblygu sgiliau gwyddoniaeth, sgiliau allweddol a dealltwriaeth gysyniadol cyfnod sylfaen a CA2.
- Dangos sut y gellid archwilio rhifedd a gwyddoniaeth gan ddefnyddio tiroedd yr ysgol.
- Archwilio cyfleoedd i ddosbarthiadau ymweld â’r orielau Hanes Natur yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
- Darparu syniadau, gemau a gweithgareddau gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth, gan Cerian Angharad, See Science.
Yn cynnwys sesiwn ymarferol gan Anne Goldsworthy, Ymgynghorydd Addysg Wyddonol (www.annegoldsworthy.co.uk).
Nifer gyfyngedig o leoedd - 30 athro ar y mwyaf. Rhaid archebu ymlaen llaw: 029 2057 3240.







