Peiriannau a Dyfeisiadau Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Nifer: 2 grŵp o hyd at 30 disgybl.

Addas ar gyfer: Cyfnod Allweddol 2.

Pwrpas: Dysgu am ddyfeisio ac arloesi a ddigwyddodd yng Nghymru.

Sesiwn Actor Cymeriad: Sesiwn fore dan arweiniad lle caiff y plant gyfle i gyfarfod Mr Trevithick, actor cymeriad fydd yn sôn wrthyn nhw am ei ddyfais enwog – locomotif stêm gyntaf y byd. Bydd y plant yn dysgu am yr hanes cyffrous ym Merthyr Tudful ac am y problemau fu'n rhaid i Mr Trevithick eu goresgyn cyn i'r peiriant symud.

Sesiwn Oriel Robin Goch: Sesiwn fore dan arweiniad lle caiff y plant ddysgu sut y dyluniwyd ac adeiladwyd y Robin Goch, un o'r awyrennau cynharaf yn y Deyrnas Unedig. Dyma'r unig awyren maes o'i bath yng Nghymru hefyd. Bydd y plant yn dysgu am beirianneg arloesol yr adeiladwr, Charles Horace Watkins.

Gweithlyfr Peiriannau a Dyfeisiadau: Sesiynau dan arweiniad athro lle bydd y dosbarth yn rhannu'n ddau grŵp (y ddau yng ngofal oedolyn) er mwyn cwblhau dau weithlyfr am y peiriannau a'r datblygiadau pwysig a welwyd yn niwydiant Cymru, ddoe a heddiw.

Perthnasol i: hanes, gwyddoniaeth a Fframwaith Sgiliau.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.