Ymchwiliad Fictoraidd (Tymor y Gwanwyn 2013) Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Hyd: 3 sesiwn 50 munud yr un yn ystod y diwrnod.

Nifer: 2 grŵp o 30 disgybl.

Addas ar gyfer: Cyfnod Allweddol 2.

Pwrpas: Bydd y sesiynau yn helpu disgyblion i adnabod newidiadau i fywydau bob dydd pobl leol yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg; gofyn ac ateb cwestiynau perthnasol am y gorffennol; defnyddio amrywiaeth o ffynonellau.

Bydd y disgyblion yn cael cyfle i ddewis, cofnodi, a threfnu gwybodaeth hanesyddol a chyfathrebu syniadau, barn a chasgliadau.

Bydd y sesiwn yn helpu disgyblion i ofyn a oedd newidiadau pwysig ym mywydau pobl ar y pryd, ac os oedd, pam? Byddan nhw hefyd yn ystyried sut oedd bywyd i bobl gyfoethog a thlawd, i ddynion, menywod a phlant.

Sesiwn actor cymeriad: Sesiwn wedi'i hwyluso lle caiff y plant gyfle i gyfarfod 'Mr Rosser', actor cymeriad fydd yn siarad am rai o'r gwahanol bobl y cyfarfu â hwy yn ystod ei rôl fel cyfrifwr. Bydd y plant yn dysgu am y gwahanol gefndiroedd a dosbarthiadau cymdeithasol a welodd yn ardal Abertawe ar ddiwrnod Cyfrifiad 1851. Bydd y plant yn dysgu am y gwaith fyddai pobl gyfoethog a thlawd yn ei gyflawni, yn ddynion menywod a phlant, yng Nghymru ddiwydiannol oes Fictoria. Byddan nhw'n dysgu am y newidiadau a ddigwyddodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a sut y gellir gweld y newidiadau yma mewn un rhan o dref ddiwydiannol fel Abertawe.

Sesiwn trin gwrthrychau: Sesiwn wedi'i hwyluso lle bydd y plant yn rhannu'n chwe grŵp i ymchwilio i dystiolaeth gynradd ac eilaidd. Cyflwynir amlinelliad o un o'r bobl a restrir yng Nghyfrifiad 1851 i bob grŵp. O'r dystiolaeth, bydd yn rhaid iddynt ddewis arteffactau fyddai i'w gweld o bosibl yn nhŷ y person hwnnw, a chyfiawnhau eu dewis. Bydd yn rhaid iddyn nhw ystyried sut a pham mae gwrthrychau yn brawf o fywyd person gan gynnwys dosbarth cymdeithasol, swydd a diddordebau. Byddan nhw'n edrych ar amrywiaeth eang o wrthrychau yn ymwneud â'r gwahanol gymeriadau ac yn adeiladu llun o fywyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Taith dan arweiniad athro: Cyfle i�r plant archwilio�r orielau er mwyn dysgu mwy am fywyd yn Oes Fictoria.

Crynodeb bag papur: Sesiwn wedi�i hwyluso lle caiff y plant gyfle i fyfyrio ar eu hymweliad. Cant eu hannog i ddewis pum atgof gan ddefnyddio ffotograffau, geiriau a deunyddiau i gofnodi yr hyn maen nhw wedi�i ddysgu am y Fictoriaid i�w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Perthnasol i: hanes a Fframwaith Sgiliau.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.