Casgliadau'r Diwydiant Llechi
Curadur : Cadi Iolen BA, MA
[delwedd: Gweithdai’r Gilfach Ddu, cartref Amgueddfa Lechi Cymru]
Gweithdai’r Gilfach Ddu, cartref Amgueddfa Lechi Cymru
[delwedd: Chwarelwyr yn hollti a naddu llechi, Chwarel Dinorwig, 1921]
Chwarelwyr yn hollti a naddu llechi, Chwarel Dinorwig, 1921
Cartref Amgueddfa Lechi Cymru yw'r Gilfach Ddu - hen weithdai cynnal a chadw Chwarel Dinorwig. Yn y gweithdai hyn y gwnaed holl waith trwsio a chynnal a chadw’r chwarel, popeth o atgyweirio injans stem i adeiladau wagenni i gludo’r llechi. O ganlyniad mae’n ymddangos mai peiriannau mawr haearn yw craidd casgliad yr Amgueddfa Lechi, ond mae llawer mwy i’r casgliad o dros 8,000 o wrthrychau, dogfennau, a ffotograffau.
Gellir rhannu casgliad yr Amgueddfa Lechi yn dri gwahanol gategori:-
Yn gyntaf, rhan greiddiol y casgliad yw’r gwrthrychau a oedd ar y safle pan sefydlwyd yr amgueddfa h.y. ‘fixtures and fittings’ gwreddiol y Gilfach Ddu, pethau megis yr olwyn ddŵr a’r olwyn Pelton, a’r peiriannau yn y gweithdai. Dyma’r gwrthrychau sydd yn rhoi naws wreiddiol i’r amgueddfa, ac a ysbrydolodd pobl fel Hugh Richard Jones (Prif Beiriannydd olaf Chwarel Dinorwig) nol yn 1969 i sefydlu amgueddfa yn y Gilfach Ddu.
[delwedd: Yr Olwyn Ddŵr a oedd yn pweru peiriannau’r gweithai]
Yr Olwyn Ddŵr a oedd yn pweru peiriannau’r gweithai
[delwedd: Peiriannau gwreiddiol, gweithdy trwsio]
Peiriannau gwreiddiol, gweithdy trwsio
Yr ail gategori o wrthrychau sydd yn ffurfio casgliad yr amgueddfa ydi’r gwrthrychau sydd wedi eu casglu dros y blynyddoedd gan staff yr amgueddfa. Mae’r gwrthrychau yma yn adeiladu ar y casgliad creiddiol gan eu bod yn wrthrychau o wahanol ardaloedd o Gymru, ac yn adlewyrchu pwysigrwydd u diwydiant drwy Gymru.
Mae’r gwrthrychau yma yn amrywiol iawn, pethau megis Una injan stem oedd yn gweithio’n wreiddiol yn Chwarel Penyrorsedd, Dyffryn Nantlle, neu beiriant cloddio ‘Smith Rodley’ o Chwarel Dwr Oer, Blaenau Ffestiniog.
Mae’r categori yma o wrthrychau hefyd yn cynnwys detholiad o offer llaw a ddefnyddiwyd gan chwarelwyr, megis cynion.
Y trydydd categori o wrthrychau sy’n ffurfio casgliad yr amgueddfa ydi’r gwrthrychau sydd yn dodrefnu Fron Haul - rhes o bedwar tŷ a symudwyd carreg wrth garreg o Danygrisiau - a Thŷ’r Peiriannydd.
Mae’r gwrthrychau yma yn amrywiol iawn gan fod y tai wedi eu dodrefnu fel eu bod o gyfnodau a lleoliadau gwahanol:
- Rhif. 3 Fron Haul - 1861, Tanygrisiau — oes aur y diwydiant llechi;
- Rhif. 2 Fron Haul - 1901, Bethesda — Streic y Penrhyn;
- Rhif 1 Fron Haul - 1969, Llanberis — cau Chwarel Dinorwig;
- Tŷ’r Peiriannydd - 1911, Gilfach Ddu, Llanberis.
[delwedd: Fron Haul, rhes o dai chwarelwyr]
Fron Haul, rhes o dai chwarelwyr
[delwedd: Prif ystafell tŷ 1901]
Prif ystafell tŷ 1901
[delwedd: Una (injan stem)]
Una (injan stem)
[delwedd: Cloddiwr Smith Rodley ]
Cloddiwr Smith Rodley
[delwedd: Cŷn llydan a thenau i hollti clwt o lechfaen i lechi to. ]
Cŷn llydan a thenau i hollti clwt o lechfaen i lechi to.