Mae’r arddangosfeydd yn Amgueddfa Cymru yn cwmpasu hanes animeiddio yng Nghymru o Jerry the Tyke (1925) i Calon Cartwn (2012). Nid dyna ddiwedd yr hanes fodd bynnag — bob blwyddyn mae myfyrwyr Prifysgolion o bob cwr o Gymru yn ddehongli dulliau animeiddio ac effeithiau gweledol mewn ffyrdd newydd a hynod. Dyma sampl o waith myfyrwyr gradd 2012 o Brifysgolion Metropolitan Abertawe, Casnewydd a Morgannwg. Mae’r Prifysgolion a’u cyrsiau achredig yn rhan o Academi Cyfryngau Cymru Skillset, canolfan arbenigedd dan sêl bendith y diwydiant sy’n gyswllt rhwng myfyrwyr a’r diwydiant cyfryngau creadigol proffesiynol.
» Academi Cyfryngau Cymru Skillset
[delwedd: Ye Olde Doppelganger]