Syr Thomas Mansel o Fargam a�i wraig, Jane

Syr Thomas Mansel a'i wraig, Jane
Yr Ysgol Brydeinig
Dyma bortread dwbl, gyda llun tri-chwarter o Syr Thomas Mansel o Fargam - aelod o un o deuluoedd mwyaf cefnog y de ar y pryd.
Fe wnaeth teulu'r Mansel o Oxwich ei ffortiwn ar ôl buddsoddi mewn tiroedd mynachaidd yn sgil Deddf Diddymu'r Mynachlogydd Harri VIII. Roedd Syr Thomas yn Aelod Seneddol dros Forgannwg. Etifeddodd gartref y teulu ym 1595, a adeiladwyd ar safle Abaty Margam, ger Castell-nedd.
Yn ystod dau ddegawd cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg, fe wnaeth y genhedlaeth hon o'r teulu gomisiynu sawl portread yn y ffurf herodrol ffurfiol, fel y portread hwn. Nid cyfleu personoliaeth yr unigolyn oedd nod portreadau fel hyn, ond arddangos cyfoeth a statws cymdeithasol y teulu yn gyhoeddus.
Thomas Mansel - archwilio'r baentiad
Defnyddiwch y cysylltiadau isod i ddod i wybod mwy am y llun
Dwylo
Roedd portreadau dwbl yn boblogaidd yn y cyfnod ond byddent yn cael eu paentio'n aml i ddathlu cynyddu cyfoeth, statws a ph?er teulu trwy briodas, nid i ddathlu cariad. Peth anghyffredin oedd portreadu ystum cariadus, fel dal dwylo.
Thomas Mansel
Caiff Syr Thomas Mansel ei bortreadu fel g?r hyderus a nodedig. Erbyn hyn roedd yn un o ddynion cyfoethocaf a mwyaf dylanwadol De Cymru. Yn ogystal â gwasanaethu Morgannwg fel aelod seneddol a Siryf ar sawl achlysur, cafodd ei urddo hefyd yn farchog, ac ym 1611 ef oedd un o'r cyntaf erioed i dderbyn y teitl Barwnig.
Gwisg
Mae Syr Thomas yn gwisgo dwbled wen gyda choleri a chyffiau o les cain, a thiwnig dywyll ag arni frodwaith aur. Dim dyma'i ddillad bob dydd – cawsant eu dewis yn arbennig ar gyfer y portread, er mwyn dangos ei chwaeth a'i gyfoeth.
Barf
Cai barf ei ystyried yn brawf o wrywdod ac roeddent yn ffordd bwysig i ddynion arddangos eu ffasiwn. Gwisgai Thomas Mansel ei farf yn hir ac yn sgwâr.
Jane
Wrth i Jane Pole briodi Syr Thomas Mansel, daeth yn rhan o un o deuluoedd mwyaf pwerus De Cymru. Nid dyma'i thro cyntaf fodd bynnag – roedd hi wedi bod yn briod ddwywaith o'r blaen! Roedd priodi sawl gwaith yn gyffredin yn y 17eg ganrif gyda disgwyliad oes isel yn golygu taw byr fyddai sawl undeb
Gwisg Jayne
Mae'r Fonesig Jane yn gwisgo gwisg dywyll ag arni frodwaith aur, coler a phenwisg les gymhleth, a mwclis perlau tri llinyn yn ategu'r cyfan. Oes oedd hon pan cai ffasiwn newydd a deunyddiau moethus fel les eu mewnforio. Nid yw ei gwisg yn y ffasiwn ddiweddaraf, sy'n awgrymu chwaeth cenhedlaeth h?n.
Melyn Mair
Mae'r Fonesig Jane yn dal Melyn Mair. Gall hyn fod yn gyfeiriad at Mary eu merch sydd yn ymddangos gyda'i rhieni mewn portread arall sydd bron yn union yr un peth. Cai Melyn Mair ei ddefnyddio'n aml fel symbol o alar neu gysur, felly gallai fod yn gyfeiriad at farwolaeth ail ?r Jane.
Related
Rhyngweithiol: Plasty Margam: Archwiliwch y paentiad
17 Hydref 2012Y ddau baentiad panoramig mawr yma o ddechrau’r 18fed ganrif yw’r unig gofnodion sylweddol o Blasty Margam, un o dai Tuduraidd mwyaf Cymru. Dewch i gael golwg fanwl ar y paentiadau gyda'n teclyn rhyngweithiol ar-lein.
Rhyngweithiol: Cathryn o Ferain - Archwiliwch y llun
10 Hydref 2011Fe briododd Cathryn o Ferain bedair gwaith a magu llawer o blant, ac o’r herwydd cafodd y llysenw
‘Mam Cymru’ yn ddiweddarach. Ganfod yr hyn y mae portread Cathryn yn ei ddatgelu amdani, ffasiynau’r oes, a thraddodiad portreadu’r unfed ganrif ar bymtheg.Tudalennau: Casgliadau celf ar-lein
6 Ebrill 2007


