Llogi Preifat: Ystafell De Gwalia
Mae’r Ystafelloedd Te uwchben siop a haearnwerthwr Gwalia o’r 1920au yng nghanol safle’r Amgueddfa. Mae’r lleoliad hynod o boblogaidd hwn ar agor i’r cyhoedd yn ystod yr adegau prysuraf, ond mae’n lleoliad unigryw ar gyfer digwyddiadau yn ystod y misoedd tawelach.
[delwedd: ]
|
Ar gael yn dymhorol Mynediad cyfyngedig |
Nifer o bobl
Ciniawa: 30 |
Pris
Hanner Diwrnod (9.30am-12.30pm neu 1-5pm): £100 (£120) Diwrnod (9am-5pm): £150 (£180) |
Nos: £250 (£300) Diwrnod a Nos: £350 (£420) |
Nid yw’r prisiau’n cynnwys arlwyo. Mae’r prisiau mewn cromfachau’n cynnwys TAW.
Cynigir gostyngiad o 20% i Lywodraeth Cynulliad Cymru, elusennau cofrestredig, grwpiau cymunedol a chyrff addysg ffurfiol wrth logi yn ystod y dydd.
Mae’n bleser gennym gynnig gostyngiadau cyfradd ar gyfer llogi nifer ar y tro.
Codir tâl parcio o £3.50 y car yn ystod oriau agor yr Amgueddfa. Gellir parcio bysiau am ddim.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â’r Tîîm Llogi Cyfleusterau:
E-bost
Ffôn: 029 20573416 / 029 20573500
Ffacs: 029 2057340
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Sain Ffagan, Caerdydd CF5 6XB