Cynllunio'ch Ymweliad - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Gobeithio y mwynhewch eich ymweliad â'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd y wybodaeth sy'n dilyn yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich ymweliad.

Dod yma:
Cliciwch yma am wybodaeth i ymwelwyr a cyfarwyddiadau. Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn y ganolfan ddinesig. Codir tâl bychan am barcio ym Maes Parcio'r Ymwelwyr. Mynediad - AM DDIM.
Trefnu ymlaen llaw:
Gofynnir i grwpiau drefnu eu hymweliad ymlaen llaw.
Rhestr o rifau defnyddiol:
- Adran Addysg: (029) 2057 3240 (ysgolion a cholegau)
- Swyddfa Ddigwyddiadau: (029) 2057 3148 (gwybodaeth gyffredinol am ddigwyddiadau yn yr Amgueddfa)
- Adran Farchnata: (029) 2057 3471 (grwpiau diddordebau arbennig)
- Siop Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: (029) 2057 3478
Amserau agor:
Mawrth - Sul, 10am - 5pm a phob dydd Llun Gwyl y Banc. Mae swyddfeydd yr Amgueddfa ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau'r banc.
Gwybodaeth Gyffredinol
Wrth Gyrraedd
Caiff bysiau ollwng a chodi grwpiau yn union y tu allan i'r brif fynedfa. Gofynnir i arweinydd y grwp gofrestru wrth y Dderbynfa. Dewch â'r papur sy'n cadarnhau'r trefniant gyda chi. Mae'n rhaid i arweinydd y grwp nodi'r union nifer sydd yn y grwp wrth gofrestru. Yn y Brif Neuadd y mae ymweliadau tywys yn cychwyn oni nodwyd yn wahanol.
Toiledau
Mae'r rhain oddi ar y Brif Neuadd ar lefel yr is-lawr.
Mynediad i Bobl Anabl
Mae canllawiau mynediad ar gael ar yma neu drwy ffonio (029) 2057 3149.
Ffotograffiaeth
Caniateir tynnu ffotograffau at ddefnydd personol yn yr holl orielau ac eithrio lle dangosir y symbol hwn. Gofynnwn i ymwelwyr sy'n tynnu lluniau â chamera lofnodi ffurflen wrth y dderbynfa.
Ffonau Symudol
Fel arwydd o gwrteisi at ymwelwyr eraill, gofynnir i chi beidio â defnyddio eich ffôn symudol yn yr Orielau.
Arlunio yn yr Orielau

Nid yw defnyddiau arlunio yn gwneud drwg i'r orielau na'r arddangosfeydd fel arfer ond gall ymylon byrddau arlunio, a phinnau ysgrifennu a phenseli miniog niweidio fframiau, darluniau sydd heb wydr drostynt a cherfluniau. Gall defnyddiau lliwio a gwahanol fathau o lud ddifrodi gweithiau celf, gwrthrychau, waliau neu loriau os cânt eu gollwng arnynt trwy ddamwain.
Gofynnir i chi fod yn ofalus:
- Peidiwch â mynd â phaent, creons, pensiliau, lliwiau pastel ac ati yn agos at waliau, gwrthrychau na gweithiau celfyddyd. Os byddwch yn defnyddio paent, siarcol neu liwiau pastel, dewch â'ch defnydd eich hunan i orchuddio'r llawr.
- Peidiwch â mynd â byrddau arlunio na chlipfyrddau yn agos at weithiau celfyddyd na blychau arddangos.
- Peidiwch â mynd â defnyddiau sticio na glynu i Orielau 8 a 9 lle dangosir gweithiau celfyddyd ar bapur. Yn yr orielau eraill, mae'n rhaid i chi beidio â'u chwistrellu yn agos at y gweithiau sy'n cael eu harddangos ac mae'n rhaid i chi roi rhywbeth dros y llawr i'w warchod.
Newid yr Arddangosfeydd
Os ydych yn dod i weld gweithiau celfyddyd, sbesimenau neu arteffactau penodol, holwch cyn dod a fyddant ar gael i'w gweld yma. Mae'r arddangosfeydd yn cael eu had-drefnu o dro i dro ac mae darnau'n cael eu rhoi ar fenthyg neu'n cael eu tynnu o'r arddangosfeydd er mwyn gwneud gwaith cadwraeth arnynt.
Cyfleusterau Arbennig ar gyfer Grwpiau Ysgolion
Ystafell Gotiau
Mae'r Ystafell Gotiau ar gyfer grwpiau ysgolion ar lefel yr islawr. Gofynnwch i un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa am gyfarwyddiadau. Mae'n well gadael cotiau a bagiau yn yr ystafell gotiau. Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr yno.
Ystafell Frechdanau
Mae ystafell ar gael i'r plant fwyta'u pecynnau bwyd drwy drefniant ymlaen llaw. Gellir trefnu sesiynau hanner awr ar gyfer grwpiau o hyd at 60 ar y tro.
Dim ond yn y Caffi, y Bwyty neu'r Ystafell Frechdanau y dylid bwyta ac yfed yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Os yw'r tywydd yn braf, efallai yr hoffech gael picnic y tu allan yng Ngerddi'r Orsedd. Gall y ffordd y tu allan i'r Amgueddfa fod yn brysur. Byddwch yn ofalus iawn wrth ei chroesi.
Siop yr Amgueddfa
Ceir yma siop arbennig ar gyfer plant sy'n gwerthu teganau, defnyddiau addysgol a chitiau gweithgareddau. Mae llyfrau, printiadau a chardiau post ar gael hefyd. Gofynnwn i ysgolion helpu i oruchwylio'r plant trwy sicrhau mai grwpiau bach sy'n ymweld â'r siop ar y tro.
Ymweliadau Rhagflas
Mae'r rhain ar gael i athrawon neu arweinyddion grwpiau sy'n dymuno dod i nabod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn well cyn dod â'u grwp yno. Dylech ffonio ymlaen llaw os byddwch yn dymuno siarad ag aelod o'r staff Addysg pan fyddwch yn dod.
Iechyd a Diogelwch
Eich Amgueddfa chi yw hon. Mae'n lle i chwilota a dysgu. Er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hymweliad, gofynnwn i bawb barchu rhai rheolau:
- Gofynnwn i chi sicrhau bod plant a phobl ifanc o dan 14 oed yn cael eu goruchwylio trwy'r amser.
- Peidiwch â rhedeg yn yr Orielau a byddwch yn ofalus ar y grisiau.
- Peidiwch â chyffwrdd â gwrthrychau, sbesimenau na darluniau a pheidiwch â gadael olion bysedd ar y blychau gwydr. Cewch gyffwrdd â cherrig a mwynau yn Orielau Esblygiad Cymru ac mae Oriel Glanely yn lle arbennig i drafod pethau.
Gallwch lawrlwytho ein gwybodaeth iechyd a diogelwch yma.
Mewn Argyfwng
Tân
Bydd larwm yn canu os ceir tân. Pan glywch y larwm, dylai eich grwp adael yr adeilad trwy ddilyn yr arwyddion i'r allanfa dân agosaf. Bydd Cynorthwywyr yr Amgueddfa yn dweud wrthych beth i'w wneud.
Cymorth Cyntaf
Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa. Bydd ef neu hi yn galw am aelod o staff sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig.
Plant ar Goll
Os bydd plentyn ar goll, dylai ddweud wrth un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa. Bydd ef neu hi yn cysylltu â'r grwp ac yn trefnu i'r plentyn gael ei hebrwng i'r Brif Neuadd lle gall oedolyn o'r grwp gyfarfod ag ef/hi.
Unrhyw Argyfwng Arall
Os bydd rhyw argyfwng arall yn codi, cysylltwch ag un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa.
Beth gawn ni ei weld?
Oriel Glanely
Dewch i'r oriel hon i gael profiadau ymarferol. Bydd y cyfleusterau modern a'r yn eich helpu i drafod eitemau o gasgliadau'r Amgueddfa ac i gymryd rhan mewn llu o weithdai a digwyddiadau arbennig.
Celfyddyd
Cewch weld paentiadau, lluniau, cerfluniau, gwaith arian a chrochenwaith a grewyd yng Nghymru a'r byd dros y pum canrif diwethaf. Ceir yma gasgliad pwysig o waith yr Argraffiadwyr Ffrengig ochr yn ochr â gwaith arlunwyr o Gymru, ddoe a heddiw, a gwaith porslen di-hafal Abertawe a Nantgarw.
Esblygiad Cymru
Mae arddangosfa Esblygiad Cymru yn adrodd hanes Cymru dros gyfnod o 15,000 miliwn o flynyddoedd - o'r Glec Fawr i gyfnod ffurfio'r Byd 4,600 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac ymddangosiad y dyn cyntaf.
Wrth i Gymru lithro'n araf o'i safle ger Pegwn y De 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae'r creigiau'n dangos tystiolaeth o'r newidiadau yn yr hinsawdd a'r amgylchedd. Mae cwrelau ffosiledig yn arwyddion o hinsawdd trofannol ac mae olion erydu yn yr uwchdiroedd yn dangos i ni fod haenau iâ wedi gorchuddio tiroedd Cymru yn gymharol ddiweddar.
Hanes Natur
Bydd ymweliad â'r Oriel Hanes Naturiol yn mynd â chi ar daith o gwmpas y cynefinoedd gwych ac amrywiol sy'n creu amgylchedd naturiol Cymru. Mwynhewch stori'r amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid sy'n byw yn y lleoedd hyn, o draethau Sir Benfro i ucheldiroedd Eryri.
Edrychwch ar rai o'r pryfed anhygoel a geir mewn fforestydd trofannol, gan gynnwys ein nyth o forgrug deildorrol, a darganfyddwch effaith pobl ar y moroedd.
Archaeoleg a Nwmismateg
Cewch gip ar hanes Cymru o gyfnod y bobl gyntaf 250,000 o flynyddoedd yn ôl i'r canol oesoedd ac wedyn. Ceir yma dystiolaeth o Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn, Cyfnod y Rhufeiniaid a'r Cyfnod Cristnogol Cynnar.

Y Tu ôl i'r Llenni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Y Llyfrgell
Ceir llyfrgell ymchwil a chyfeirio bwysig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Caiff unigolion drefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r llyfrgell. Mae ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Gwener, 10am - 5pm. Gofynnir i chi drefnu'ch ymweliad dri diwrnod ymlaen llaw trwy ffonio (029) 2057 3202. Dylech nodi beth, yn benodol, yr hoffech ei weld. Ni allwn roi llyfrau ar fenthyg.
Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau
Mae dros 28,000 o weithiau ar bapur yn cael eu storio a'u gwarchod yn yr ystafell hon. Maent yn cynnwys lluniadau, lluniau dyfrlliw, printiadau a ffotograffau. Caiff unigolion a grwpiau o fyfyrwyr (hyd at 10) ymweld â'r Ystafell Astudio trwy drefniant ymlaen llaw. Dylid trefnu'ch ymweliad trwy ffonio'r Curadur ar 029 2057 3232.
Casgliadau Wrth Gefn
Gall unigolion a grwpiau drefnu ymlaen llaw i weld eitemau yn y Casgliadau Wrth Gefn. Cysylltwch yn uniongyrchol â'r adran guradurol:
- Archaeoleg a Nwmismateg: (029) 2057 3229
- Celfyddyd: (029) 2057 3104
- Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol: (029) 2057 3220
- Daeareg: (029) 2057 3213
Gobeithio'n fawr y mwynhewch eich ymweliad â'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Hoffem i chi roi gwybod i ni sut y gallem wella'ch ymweliad - anfon eich sylwadau i ni yma.







