Cynllunio'ch YmweliadAddysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Gobeithio y mwynhewch eich ymweliad â'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Bydd y wybodaeth sy'n dilyn yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar eich ymweliad.

Cynllunio'ch Ymweliad

Dod yma:

Cliciwch yma am wybodaeth i ymwelwyr a cyfarwyddiadau. Mae'r Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol yn y ganolfan ddinesig. Codir tâl bychan am barcio ym Maes Parcio'r Ymwelwyr. Mynediad - AM DDIM.

Trefnu ymlaen llaw:

Gofynnir i grwpiau drefnu eu hymweliad ymlaen llaw.

Rhestr o rifau defnyddiol:

  • Adran Addysg: (029) 2057 3240 (ysgolion a cholegau)
  • Swyddfa Ddigwyddiadau: (029) 2057 3148 (gwybodaeth gyffredinol am ddigwyddiadau yn yr Amgueddfa)
  • Adran Farchnata: (029) 2057 3471 (grwpiau diddordebau arbennig)
  • Siop Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: (029) 2057 3478

Amserau agor:

Mawrth - Sul, 10am - 5pm a phob dydd Llun Gwyl y Banc. Mae swyddfeydd yr Amgueddfa ar gau ar benwythnosau ac ar wyliau'r banc.

Gwybodaeth Gyffredinol

Wrth Gyrraedd

Caiff bysiau ollwng a chodi grwpiau yn union y tu allan i'r brif fynedfa. Gofynnir i arweinydd y grwp gofrestru wrth y Dderbynfa. Dewch â'r papur sy'n cadarnhau'r trefniant gyda chi. Mae'n rhaid i arweinydd y grwp nodi'r union nifer sydd yn y grwp wrth gofrestru. Yn y Brif Neuadd y mae ymweliadau tywys yn cychwyn oni nodwyd yn wahanol.

Toiledau

Mae'r rhain oddi ar y Brif Neuadd ar lefel yr is-lawr.

Mynediad i Bobl Anabl

Mae canllawiau mynediad ar gael ar yma neu drwy ffonio (029) 2057 3149.

Ffotograffiaeth

Dim lluniau

Caniateir tynnu ffotograffau at ddefnydd personol yn yr holl orielau ac eithrio lle dangosir y symbol hwn. Gofynnwn i ymwelwyr sy'n tynnu lluniau â chamera lofnodi ffurflen wrth y dderbynfa.

Ffonau Symudol

Fel arwydd o gwrteisi at ymwelwyr eraill, gofynnir i chi beidio â defnyddio eich ffôn symudol yn yr Orielau.

Arlunio yn yr Orielau

Cynllunio'ch Ymweliad

Nid yw defnyddiau arlunio yn gwneud drwg i'r orielau na'r arddangosfeydd fel arfer ond gall ymylon byrddau arlunio, a phinnau ysgrifennu a phenseli miniog niweidio fframiau, darluniau sydd heb wydr drostynt a cherfluniau. Gall defnyddiau lliwio a gwahanol fathau o lud ddifrodi gweithiau celf, gwrthrychau, waliau neu loriau os cânt eu gollwng arnynt trwy ddamwain.

Gofynnir i chi fod yn ofalus:

  • Peidiwch â mynd â phaent, creons, pensiliau, lliwiau pastel ac ati yn agos at waliau, gwrthrychau na gweithiau celfyddyd. Os byddwch yn defnyddio paent, siarcol neu liwiau pastel, dewch â'ch defnydd eich hunan i orchuddio'r llawr.
  • Peidiwch â mynd â byrddau arlunio na chlipfyrddau yn agos at weithiau celfyddyd na blychau arddangos.
  • Peidiwch â mynd â defnyddiau sticio na glynu i Orielau 8 a 9 lle dangosir gweithiau celfyddyd ar bapur. Yn yr orielau eraill, mae'n rhaid i chi beidio â'u chwistrellu yn agos at y gweithiau sy'n cael eu harddangos ac mae'n rhaid i chi roi rhywbeth dros y llawr i'w warchod.

Newid yr Arddangosfeydd

Os ydych yn dod i weld gweithiau celfyddyd, sbesimenau neu arteffactau penodol, holwch cyn dod a fyddant ar gael i'w gweld yma. Mae'r arddangosfeydd yn cael eu had-drefnu o dro i dro ac mae darnau'n cael eu rhoi ar fenthyg neu'n cael eu tynnu o'r arddangosfeydd er mwyn gwneud gwaith cadwraeth arnynt.

Cyfleusterau Arbennig ar gyfer Grwpiau Ysgolion

Ystafell Gotiau

Mae'r Ystafell Gotiau ar gyfer grwpiau ysgolion ar lefel yr islawr. Gofynnwch i un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa am gyfarwyddiadau. Mae'n well gadael cotiau a bagiau yn yr ystafell gotiau. Peidiwch â gadael pethau gwerthfawr yno.

Ystafell Frechdanau

Mae ystafell ar gael i'r plant fwyta'u pecynnau bwyd drwy drefniant ymlaen llaw. Gellir trefnu sesiynau hanner awr ar gyfer grwpiau o hyd at 60 ar y tro.

Dim ond yn y Caffi, y Bwyty neu'r Ystafell Frechdanau y dylid bwyta ac yfed yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Os yw'r tywydd yn braf, efallai yr hoffech gael picnic y tu allan yng Ngerddi'r Orsedd. Gall y ffordd y tu allan i'r Amgueddfa fod yn brysur. Byddwch yn ofalus iawn wrth ei chroesi.

Siop yr Amgueddfa

Ceir yma siop arbennig ar gyfer plant sy'n gwerthu teganau, defnyddiau addysgol a chitiau gweithgareddau. Mae llyfrau, printiadau a chardiau post ar gael hefyd. Gofynnwn i ysgolion helpu i oruchwylio'r plant trwy sicrhau mai grwpiau bach sy'n ymweld â'r siop ar y tro.

Ymweliadau Rhagflas

Mae'r rhain ar gael i athrawon neu arweinyddion grwpiau sy'n dymuno dod i nabod Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd yn well cyn dod â'u grwp yno. Dylech ffonio ymlaen llaw os byddwch yn dymuno siarad ag aelod o'r staff Addysg pan fyddwch yn dod.

Iechyd a Diogelwch

Eich Amgueddfa chi yw hon. Mae'n lle i chwilota a dysgu. Er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau eu hymweliad, gofynnwn i bawb barchu rhai rheolau:

  • Gofynnwn i chi sicrhau bod plant a phobl ifanc o dan 14 oed yn cael eu goruchwylio trwy'r amser.
  • Peidiwch â rhedeg yn yr Orielau a byddwch yn ofalus ar y grisiau.
  • Peidiwch â chyffwrdd â gwrthrychau, sbesimenau na darluniau a pheidiwch â gadael olion bysedd ar y blychau gwydr. Cewch gyffwrdd â cherrig a mwynau yn Orielau Esblygiad Cymru ac mae Oriel Glanely yn lle arbennig i drafod pethau.

Gallwch lawrlwytho ein gwybodaeth iechyd a diogelwch yma.

Mewn Argyfwng

Tân

Bydd larwm yn canu os ceir tân. Pan glywch y larwm, dylai eich grwp adael yr adeilad trwy ddilyn yr arwyddion i'r allanfa dân agosaf. Bydd Cynorthwywyr yr Amgueddfa yn dweud wrthych beth i'w wneud.

Cymorth Cyntaf

Os bydd angen Cymorth Cyntaf, cysylltwch ag un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa. Bydd ef neu hi yn galw am aelod o staff sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig.

Plant ar Goll

Os bydd plentyn ar goll, dylai ddweud wrth un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa. Bydd ef neu hi yn cysylltu â'r grwp ac yn trefnu i'r plentyn gael ei hebrwng i'r Brif Neuadd lle gall oedolyn o'r grwp gyfarfod ag ef/hi.

Unrhyw Argyfwng Arall

Os bydd rhyw argyfwng arall yn codi, cysylltwch ag un o Gynorthwywyr yr Amgueddfa.

Beth gawn ni ei weld?

Cynllunio'ch Ymweliad

Oriel Glanely

Dewch i'r oriel hon i gael profiadau ymarferol. Bydd y cyfleusterau modern a'r yn eich helpu i drafod eitemau o gasgliadau'r Amgueddfa ac i gymryd rhan mewn llu o weithdai a digwyddiadau arbennig.

Celfyddyd

Cewch weld paentiadau, lluniau, cerfluniau, gwaith arian a chrochenwaith a grewyd yng Nghymru a'r byd dros y pum canrif diwethaf. Ceir yma gasgliad pwysig o waith yr Argraffiadwyr Ffrengig ochr yn ochr â gwaith arlunwyr o Gymru, ddoe a heddiw, a gwaith porslen di-hafal Abertawe a Nantgarw.

Esblygiad Cymru

Mae arddangosfa Esblygiad Cymru yn adrodd hanes Cymru dros gyfnod o 15,000 miliwn o flynyddoedd - o'r Glec Fawr i gyfnod ffurfio'r Byd 4,600 o filiynau o flynyddoedd yn ôl ac ymddangosiad y dyn cyntaf.

Wrth i Gymru lithro'n araf o'i safle ger Pegwn y De 700 miliwn o flynyddoedd yn ôl, mae'r creigiau'n dangos tystiolaeth o'r newidiadau yn yr hinsawdd a'r amgylchedd. Mae cwrelau ffosiledig yn arwyddion o hinsawdd trofannol ac mae olion erydu yn yr uwchdiroedd yn dangos i ni fod haenau iâ wedi gorchuddio tiroedd Cymru yn gymharol ddiweddar.

Hanes Natur

Bydd ymweliad â'r Oriel Hanes Naturiol yn mynd â chi ar daith o gwmpas y cynefinoedd gwych ac amrywiol sy'n creu amgylchedd naturiol Cymru. Mwynhewch stori'r amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid sy'n byw yn y lleoedd hyn, o draethau Sir Benfro i ucheldiroedd Eryri.

Edrychwch ar rai o'r pryfed anhygoel a geir mewn fforestydd trofannol, gan gynnwys ein nyth o forgrug deildorrol, a darganfyddwch effaith pobl ar y moroedd.

Archaeoleg a Nwmismateg

Cewch gip ar hanes Cymru o gyfnod y bobl gyntaf 250,000 o flynyddoedd yn ôl i'r canol oesoedd ac wedyn. Ceir yma dystiolaeth o Oes y Cerrig, yr Oes Efydd a'r Oes Haearn, Cyfnod y Rhufeiniaid a'r Cyfnod Cristnogol Cynnar.

Cynllunio'ch Ymweliad

Y Tu ôl i'r Llenni yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Y Llyfrgell

Ceir llyfrgell ymchwil a chyfeirio bwysig yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Caiff unigolion drefnu ymlaen llaw i ddefnyddio'r llyfrgell. Mae ar agor o ddydd Mawrth tan ddydd Gwener, 10am - 5pm. Gofynnir i chi drefnu'ch ymweliad dri diwrnod ymlaen llaw trwy ffonio (029) 2057 3202. Dylech nodi beth, yn benodol, yr hoffech ei weld. Ni allwn roi llyfrau ar fenthyg.

Ystafell Astudio Printiadau a Darluniau

Mae dros 28,000 o weithiau ar bapur yn cael eu storio a'u gwarchod yn yr ystafell hon. Maent yn cynnwys lluniadau, lluniau dyfrlliw, printiadau a ffotograffau. Caiff unigolion a grwpiau o fyfyrwyr (hyd at 10) ymweld â'r Ystafell Astudio trwy drefniant ymlaen llaw. Dylid trefnu'ch ymweliad trwy ffonio'r Curadur ar 029 2057 3232.

Casgliadau Wrth Gefn

Gall unigolion a grwpiau drefnu ymlaen llaw i weld eitemau yn y Casgliadau Wrth Gefn. Cysylltwch yn uniongyrchol â'r adran guradurol:

  • Archaeoleg a Nwmismateg: (029) 2057 3229
  • Celfyddyd: (029) 2057 3104
  • Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol: (029) 2057 3220
  • Daeareg: (029) 2057 3213

Gobeithio'n fawr y mwynhewch eich ymweliad â'r Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Hoffem i chi roi gwybod i ni sut y gallem wella'ch ymweliad - anfon eich sylwadau i ni yma.

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Adran addysg:
(029) 2057 3240

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.