Food and Drink - Amgueddfa Wlân Cymru
Cynigia caffi Amgueddfa Wlân Cymru amrywiaeth o fwyd a diod i ymwelwyr, a hynny mewn awyrgylch hyfryd.
Mae yna ardal chwarae i ddiddanu'r plant hefyd tra'ch bod chi'n mwynhau paned o de.
Bydd pob pryd sydd ar y fwydlen ar ddiwrnod eich ymweliad hefyd ar gael mewn maint plentyn. Mae'r fwydlen yn newid o ddydd i ddydd ac yn dymhorol, ond mae'r isod yn rhoi blas o'r hyn sydd ar gael.
- Rholiau twrci poeth i'r Nadolig
- Caws ar dost gyda mwstard perlysiau Cymreig a chwrw Tomos Watkin
- Cawl y dydd
- Hot Pot
- Paninis amrywiol
- Cinio i blant
- Mins pei â chwstard i'r Nadolig
- Amrywiaeth o gacennau, bisgedi a siocledi blasus
- Hufen ia Cymreig
- Te / Coffi
- Amrywiaeth o ddiodydd oer








