[delwedd: Organically Grown Mushrooms film]
Organically Grown Welsh Mushrooms, Henry Lutman (1991) - Vimeo link
Lledodd y gwaith cynhyrchu ar draws Cymru a sefydlwyd cwmnïau newydd fel Aaargh Animation a Dinamo yn y de a Griffilms yn y gogledd, gan ddod a gwaed newydd i’r diwydiant.
Gyda sefydlu Cartŵn Cymru newidiwyd cwys animeiddio ar S4C gan ganolbwyntio fwyfwy ar weithiau diwylliannol ar destunau llenyddol, credoau’r byd a cherddoriaeth.
Roedd Cineteg, a weithiai o Ganolfan Celfyddydau’r Chapter yng Nghaerdydd, yn cynhyrchu eu ffilmiau eu hunain, yn ogystal â gwneud gwaith yn y gymuned yn cyflwyno cenedlaethau o blant Cymru i animeiddio.
Chwyldro Digidol
[delwedd: Gelert © Griffilms]
Gelert © Griffilms
Yn niwedd y 1980au a dechrau’r 1990au cafodd cyfrifiaduron effaith chwyldroadol ar y broses o animeiddio ffilmiau, a datblygodd y dechnoleg yn rhyfeddol o gyflym.
Mae animeiddwyr Cymru yn parhau i fanteisio ar y datblygiadau newydd yma.
Heddiw, mae animeiddio i’w weld y tu hwnt i sgrin y sinema a’r teledu ac yn ymddangos mewn gemau cyfrifiadurol, ar wefannau ac apps ffonau symudol.
Arloeswyr Digidol
[delwedd: Cwm Rhyd y Rhosyn © Griffilms]
Cwm Rhyd y Rhosyn © Griffilms
Roedd Roger Fickling yn un o sylfaenwyr Siriol Animation ac yn flaenllaw yn y chwyldro digidol yn niwedd y 1980au.
Roedd yng ngofal y twf cyflym yn y defnydd o Ddelweddau wedi’u Cynhyrchu gan Gyfrifiaduron (CGI) tra’n gweithio i nifer o gwmnïau yn creu teitlau rhaglenni, effeithiau arbennig a rhaglenni nodwedd.
Mae’r bobl oedd yn animeiddio gyda chyfrifiaduron yn y dechrau — Henry Lutman, Bruce Steele a Chris Marshall — yn parhau i weithio yn y diwydiant heddiw.
[delwedd: Griffilms]
Gallwch chi weld rhagor o waith Chris Marshall yn oriel Esblygiad Cymru. Chris greodd animeiddiad y ‘Glec Fawr’!