
Dechreuodd S4C ddarlledu ar 1982 a’r rhaglen gyntaf ar y sianel oedd SuperTed a wnaed gan Siriol Animation.
Bellach, roedd cymeriadau o Gymru’n siarad Cymraeg.
Sefydlwyd cwmnïau animeiddio annibynnol eraill fel Hanner Dwsin a Bumper Films i wasanaethu’r sianel newydd.
Cafod nifer o’r cymeriadau cartŵn Cymreig mwyaf adnabyddus eu creu yn y cyfnod hwn, gan gynnwys Wil Cwac Cwac, Hanner Dwsin a Sam Tân.
Ymddangosodd Sam Tân am y tro cyntaf ym 1987 ac eleni, mae'n dathlu ei ben-blwydd yn 25.
Cyn pen dim roedd S4C yn ennill bri rhyngwladol a gwobrau am eu gwaith animeiddio dan arweiniad Chris Grace. Drwy ei weledigaeth darparwyd arlwy masnachol, diwylliannol ac amrywiol o ffilmiau byr, personol wedi’u creu gan animeiddwyr unigol.
Nid Tedi Cyffredin
Crëwyd SuperTed gan Mike Young ar gyfer Richard, ei lysfab pedair mlwydd oed a oedd, fel SuperTed, yn ofni’r tywyllwch. Gwerthwyd y gyfres i dros 60 o wledydd a prynwyd yr hawliau fideo gan gwmni Walt Disney.

© 2012 Prism Art & Design Ltd.
© Hit Entertainment Limited

Animeiddio Masnachol
Wrth i S4C dyfu, dilynodd nifer o gymeriadau cartŵn poblogaidd yn ôl pawennau SuperTed: Wil Cwac Cwac, Slici a Slac a’r Sgerbydion.
Wrth i’r stiwdios fagu hyder dyma gynhyrchu cartwnau hirach: rhaglenni arbennig hanner awr a ffilmiau llawn yn y pen draw.
Roed y ffilmiau llawn yn aml yn gynyrchiadau ar y cyd rhwng Cymru a Dwyrain Ewrop a Rwsia.
Animeiddio Annibynol
Dros y blynyddoedd, newidiodd y gwaith Animeiddio a gomisiynwyd gan S4C.
Enillwyd gwobrau gan ffilmiau a wnaed ar gyfer y sianel gan animeiddwyr annibynnol fel Joanna Quinn, Gerald Conn, Candy Guard, Clive Walley a Jane Hubbard gan gael eu dangos yn rheolaidd mewn gwyliau ffilm ar draws y byd.
Roedd y ffilmiau yma’n hynod o amrywiol. Roedd rhai o’r cyfranwyr, fel Clive Walley, yn artistiaid cain oedd yn cynhyrchu paentiadau symudol i bob pwrpas.

