Yn y Dechreuad
Dechreuodd animeiddio yng Nghymru ym 1925 gyda chi bach drygionus, Jerry the Troublesome Tyke.
Jerry oedd seren cyfres reolaidd o gartwnau gan Sid Griffiths, taflunydd sinema o Gaerdydd.
Roedd Jerry yn gi bach anarferol o dawel — allai e ddim cyfarth am nad oedd sain ar y ffilmiau.
Symudodd Sid Griffiths i Loegr a pharhau i greu ffilmiau animeiddio hyd at y 1950au.
Gweithiodd ar bob math o brojectau animeiddio gan gynnwys cartwnau hysbysebu a ffilmiau llawn.
Wedi'r Rhyfel
Cafodd ffilmiau animeiddio eu creu yng Nghymru wedi’r ail ryfel byd fel cyfres hyfryd Ivor the Engine gan Oliver Postgate a Peter Firmin. Ond doedd dim llawer o waith animeiddio yng Nghymru ei hun o ddiwedd y 1950au tan y 1970au.
Roedd rhai animeiddwyr annibynnol ac amatur yn cynhyrchu gwaith, ond dim ond ar ddiwedd y 1970au y dechreuodd pobl gymryd diddordeb mewn animeiddio o ddifrif unwaith eto.
Roedd Coleg Celf Casnewydd ar flaen y gad gyda chynhyrchwyr ffilmiau animeiddio Henry Lutman a Peter Turner yn hyfforddi cenhedlaeth newydd o animeiddwyr.

Frank Koller cyfarwyddwr Mr.Eppynt and Clara the Cow yn defnyddio’i gamera rostrwm ym 1978. Gweithiodd Frank ar SuperTed yn ddiweddarach (1982).
Cyhoeddwyd Llyfr Mawr Y Plant am y tro cyntaf ym 1931 yn cynnwys straeon am Wil Cwac Cwac a Sion Blewyn Coch, ond dim ond yn y 1980au y daethon nhw’n sêr eu cartwnau eu hunain.
Ymddangosodd Sali Mali mewn llyfrau ym 1969 gan ddod yn boblogaidd yn syth. Cyfarwyddwyd y gyfres animeiddio yn y 1900au gan Les Orton ar gyfer Cynyrchiadau Siriol.
Ivor the Engine a gyfarwyddwyd gan Oliver Postgate a Peter Firmin ar gyfer Smallfilms (1959-1975)

