Digwyddiadau
[delwedd: ]
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Rydyn ni'n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau diddorol i deuluoedd a chyrsiau i oedolion yn ystod y flwyddyn.
Digwyddiadau o Gorffenaf i Hydref
Gwaith Gwyrdd yn yr Ardd
24, 25, 31 Gorffennaf & 1, 4 Awst - 11-1pm & 2-4pm
Rhowch gynnig ar rai gweithgareddau syml a dysgu sut i drawsnewid eich gardd yn hafan i fywyd gwyllt. Paratowch am fywyd mwy cynaliadwy drwy dyfu eich perlysiau eich hun.
Adar
7, 8, 14, 15, 28 & 29 Awst - 11-1pm
Dewch draw i'r guddfan adar i wylio adar y goedwig a dysgu sut i'w hadnabod.
Y Bat Cam
7, 8, 14, 15, 28 & 29 Awst - 2-4pm
Gwyliwch yr ystlumod yn clwydo ar ein gwe-gamera byw a dysgu mwy amdanyn nhw.
Taith gerdded ystlumod i'r teulu
23 Awst, 8-10pm
Ymunwch â ni ar daith gyffrous yn y gwyll i chwilio am ystlumod o amgylch yr Amgueddfa. Cyfarfod wrth y brif fynedfa am 8pm. Gwisgwch ddillad addas a dewch â fflachlamp gyda chi. Mae tocynnau i'r digwyddiad hwn yn £1.50 i oedolion a £1 i blant. Mae parcio am ddim.
Gwledd yr Hydref
1 Medi, 6 Hydref a 2 & 3 Tachwedd - 11-1pm & 2-4pm
Dysgwch am y cyfoeth o fwyd tymhorol sydd ar gael yn yr hydref a chasglwch rai ryseitiau traddodiadol i'w coginio gartref. Sesiwn alw draw yn Tŷ Gwyrdd.
Ystlumod Calan Gaeaf
30 a 31 Hydref - 11am-1pm a 2-4pm
Dysgwch am yr ystlumod sy'n byw yn Sain Ffagan a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog.
Casglu cynnyrch a'i goginio!
14 Gorffennaf a 11 Awst - 11am-1pm a 2pm-4pm
Dewch am daith gerdded drwy ardd y bwthyn lle byddwn yn cynaeafu cynnyrch ffres, tymhorol, cyn dychwelyd i gegin Tŷ Gwyrdd i goginio danteithion blasus. Gall fod yn fwdlyd a'n wlyb felly cofiwch wisgo'n addas.
Sesiwn 2 awr. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn. Addas i oedrannau 8+. Rhaid archebu.