Gemau Bywyd Gwyllt - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Lawrlwythwch y PDF yma [1.5 MB]
Ffitrwydd a Goroesi
Mae anifeiliaid a phlanhigion yn gorfod cystadlu bob dydd i oroesi. Gall cryfder, maint, cyflymdra ac ystwythder roi mantais iddynt dros eu cystadleuaeth.
Edrychwch am y symbol ceiniog tsita yn ein horielau Hanes Natur Is ac Uwch, Esblygiad Cymru, y Byd Naturiol a Gwreiddiau i ddilyn y llwybr.
Cliciwch yma i weld yr atebion!
Dyma atebion cwestiynau Taith Oriel Gemau Bywyd Gwyllt. Da iawn!
- Faint o bwysau all chwilod y dom eu symud? Yn 2010, cafodd chwilen y dom Onthophagus taurus ei enwi’n bryfyn cryfa’r byd yn dilyn amcangyfrifon y gallai symud 1,141 gwaith yn drymach na’i bwysau ei hun. Byddai hyn yr un fath â pherson yn symud 6 bws deulawr! Gall llawer o chwilod mawr eraill symud gwrthrychau hyd at 50 gwaith yn drymach na’u pwysau eu hunain – tipyn o gamp!
- Pa ddau blanhigyn sydd â hadau gwenwynig iawn? Pa wenwyn sydd ynddyn nhw? Trogenllys a Physen Bader. Maen nhw’n cynnwys lectinau, y gwenwyn planhigyn mwyaf marwol. Risin (Hadau planhigyn olew castor) ac Abrin (Hadau Pysen Bader).
- Allech chi guro tsita mewn ras?Y Tsita yw’r mamal tir cyflymaf, ac mae’n gallu gwibio hyd at 100 cya (62 mya) ond mewn pyliau byr yn unig. Gall y dyn cyflymaf yn y byd gyrraedd tua 37 kya dros 100 metr.
- Pa blanhigyn sy’n gallu cau ei fagl yn gyflymach na Magl Gwener hyd yn oed? Mae gan y chwysigenddail y fagl sy’n cau gyflymaf o blith unrhyw blanhigion, sef cyfran fach o un rhan o fil o eiliad.
- Ble cafodd Môr-grwban Lledraidd mwyaf y byd ei ganfod?Harlech, gogledd Cymru. Mae’r sbesimen hwn yn cael ei ddangos yn orielau’r Amgueddfa.
- Sawl math gwahanol o olion traed allwch chi eu gweld yn yr arddangosfa olion deinosoriaid o Bendricks? Mae dau brif ôl – un a wnaed gan ddeinosor tebyg i Plateosaur (llysysydd), ac un gan ddeinosor tebyg i Coelophysis (cigysydd). Efallai taw trydydd math o ddeinosor a wnaeth yr olion traed egwan arall ar y slabiau.










