Arcanum: mapio gwaith porslen Ewropeaidd y 18fed ganrif
Mae bron i 300 mlynedd ers i 'arcanum' — sef cyfrinach gwneud porslen — gael ei darganfod ym Meissen yn yr Almaen, ac mae'n anodd gwerthfawrogi effaith hyn heddiw.
Roedd porslen yn ddefnydd gyda sawl ystyr — nid yn unig fel symbol o statws ac arwyddo chwaeth ffasiynol, ond hefyd fel arf llysgenhadol ac arwydd o gynnydd technegol a grym economaidd.
Yn yr arddangosfa hon mae'r awdur a'r crochenydd Edmund de Waal yn defnyddio casgliad pwysig yr Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol o borslen y 18fed ganrif i bwysleisio rhai o straeon cyfareddol y casgliad a, thrwy ei waith ei hun, yn diweddaru'r stori hyd heddiw.
Mae llyfryn yn cyd-fynd â'r arddangosfa, sy'n cynnwys traethodau'n archwilio themâu'r arddangosfa yn ogystal â ffotograffau sy'n dogfennu'r prosiect.



Bydd cyfres o sgyrisau awr ginio RHAD ACAM DDIM yn cyd-fynd â'r arddangosfa, yn dechrau am 12.05pm ac eto am 1.05pm.








