[delwedd: ]
Dathliad a Dawns
Mwynhewch noson i’w chofio yng nghanol coethder Amgueddfa y Glannau. Gyda phrisiau o £30 + TAW y pen, mae’r cynnig hollgynhwysol hwn ar agor i ddathliadau myfyrwyr, ciniawau graddio a dawnsfeydd elusennol.
Seiliwyd y cynnig arbennig hwn ar isafswm o 100 gwestai ac mae’n cynnwys:
- Defnydd o Neuadd Weston yr Amgueddfa o 7pm — Hanner nos
- Dewis o giniawau tri chwrs blasus wedi’u paratoi gan ein cogydd a gwasanaeth gweini arian gan ein staff
- Bar gydag amrywiaeth o ddiodydd meddal a gwin, cwrw a gwirodydd i’r sawl sydd dros 18 oed
- DJ i arwain y dawnsio
Am bris ychwanegol rhesymol, gallwn gynnwys llogi’r Y Balconi neu’r Cyntedd Uwch ar gyfer derbyniad diodydd cyn y cinio — holwch am ragor o fanylion!
I archebu ffoniwch (029) 2057 3600 neu ebostiwch Llogi Cyfleusterau
Mae Llogi Cyfleusterau yn cefnogi Amgueddfa Cymru fel elusen gofrestredig