E-steddfod 2005 - Canlyniadau
CYSTADLAETHAU YN Y GYMRAEG
1. Cerdd y Gadair: Heddwch neu Rhyfel
1af Hilma Lloyd Edwards, Bontnewydd, Caernarfon
RHYFEL
Ganol haf, ac roedd yr haul
yn dawnsio llinell
ar y meysydd ŷd.
Ymledai'r wlad
fel gwasgod frodwaith gain
o'n Blaenau,
ei haur, ei melyn a'i gwyrdd
yn ymdoddi tua'r gorwel,
ac ambell lecyn browngoch
yma a thraw,
fel pe bai yno
ryw hen graith,
a honno, bellach, wedi ceulo.
Gwibiem ninnau
hyd fidog lwyd y draffordd
ar ein taith.
'Doedd dim,
y bore hwnnw, i nodi
ein bod ni'n croesi meysydd cad;
dim ond efallai'r byrnau mawr
orweddai yn y caeau gwaith
fel cetris a daflwyd o wn,
ac ambell res o groesau
yn cuddio yn y coed.
Dim,
nes i ni yrru heibio i arwydd brown
ac arno'r geiriau:
"Marais de la Somme".
Ac yna gwyddem.
Gwyddem a chofiem
am yr angau a fu'n dawnsio yno
bedwar ugain mlwydd a mwy
yn ôl,
cyn gwawrio haul
ein diwrnod ni,
heddiw ...
* * * *
Dyddiau crasboeth canol haf
oedd y rheini hefyd,
medden nhw,
pan fu Taid ar flaen y gad
ym mlodau'i ddyddiau.
Yr hogyn deunaw oed
o fryniau Arfon
adawodd des y caeau gwaith
am wres cynhaeaf arall
ar wastadeddau Ffrainc,
â gwn, nid cryman, yn ei law grynedig.
Fe ddaeth hi'n fedi cynnar
arno yntau'r Flwyddyn honno;
nid lladd gwair ond lladd gwŷr
droes goedwig ddu
yn ffrwydrad o ffrwythau,
yn dapiau o gnawd meddal
mor niferus â dail yr Hydref
o dan draed.
Aeth hyd yn oed 'sgerbydau'r coed
yn wyn gan ddychryn.
A'r wyrth oedd iddo
ddychwel adre'n fyw
o uffern goch yr offrwm!
Adre, nid i swagro ac ymfalchïo
yn ei gamp,
ond i sibrwd deuair oer ei wae:
"Mametz Wood ... "
* * * *
Dacw hi heddiw'n
ymledu o'n Blaenau
yn ddeiliog ddistaw;
y goedwig lle na fentra'r un brodor
i gysgod ei changhennau,
lle mae hyd yn oed yr haul
yn dal i ofni treiddio.
2il Ffion Mair Thomas, Llanwddyn, Powys
Yr hunanbomiwraig / ymladdwraig dros ryddid
Yn ei phen
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond y syniad
A blannwyd yn ofalus,
A eginodd yn gynnar,
A dyfodd yn gryf,
Ac a flodeuodd yn hyll.
Yn ei chlust dde
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond pregeth bwysig
"Allah akbar!"
Yn llenwi y stryd,
Yn treiddio i'w phen.
Yn ei chlust chwith
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond pregeth boliticaidd
Ei brawd
O'r carchar
Yn llenwi ei chartref,
Yn treiddio i'w phen.
Yn ei llygaid
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond ofn
A phenderfyniad.
Yn ei cheg
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond geiriau 'drwg'
Gwrth-Israeli.
Hadau y syniad
'Drwg'?
Yn ei breichiau
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond ôl coflaid cynnes
Ei mam garedig
A blannodd y syniad
Creulon?
Yn ei llaw dde
Bom.
Yn ei llaw chwith
Dim.
Yn ei chalon
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond ei chydwybod
Yn gorffwys
Ar ôl chwarae ei gem,
Yn gorffwys
Cyn dderbyn ei fedal
Sgleiniog
'Rhoddedig gan Allah'.
Yn ei stumog
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond ofn
Ei phenderfyniad
Yn ei thread
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond un llwybr syth
I'w ddilyn
Heb edrych nôl,
Heb edrych i'r chwith
Nac i'r dde.
Ymlaen.
Y car.
Y ffrwydriad.
Tro pen ton arall o rwystredigaeth yn wyn
Cyn iddo gwympo
A gollwng ei wenwyn gwyn dros bob man.
Yn ei chorff
Doedd dim heddwch.
Doedd dim rhyfel.
Dim ond poen
Balch
Marwolaeth.
3ydd W. D. Evans, Llanrhystud, Ceredigion
Heddwch
Y Foel eithinog yn felyn
A'r Llygad Ebrill yn ennill y tynno.
Yr ŵyn ar antur hoenus
O glawdd i glawdd mewn gwenwisg lathr.
Côr y wig yn perfformio'u madrigal
Yn awyr bur y bore,
A gwên y Gwanwyn
Yn rheiddiol ar ruddiau.
Cyfeillach gyda'm cyfeillion
Ym mwyn acen fy hen iaith.
Uno'n hynt a helynt anwyliaid,
Hanes eu lles a'u llwydd.
Heneiddiaf mewn heddwch,
A charthen cymuned wledig
Yn dynn amdanaf.
2. Englyn Ysgafn: Beirniad Eisteddfod
1af Dafydd Hughes Jones, Y Rhyl, Sir Ddinbych
Llefodd mewn hwyl o'r llwyfan, "Un o ddawn"
A ddaeth i'r brig weithian,
Yna o'i le safodd lan �
Hwn wobrwyodd ei hunan!
2il R. J. Rowlands, Y Bala, Gwynedd
Urddas ar eirfa'r cerddor � a edy
Ei draethiadau porffor,
Ond damsang ar ei angor
A wna'r cyw wrth farnu'r Côr.
3ydd Neb yn Deilwng
3. Englyn: I unrhyw un o Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru
1af Dafydd Hughes Jones, Y Rhyl, Sir Ddinbych
Amgueddfa Werin Cymru
Yma mae hen hen hanes - yn fyw iawn
O fewn patrwm cylchres
Yn llechu yn eu lloches
A dwyn o hyd ein doe'n nes.
2il Owain Rhys, Caerdydd
Amgueddfa Werin Cymru
Tyrd i eistedd ar y tir distaw, clyw
fiwsig clir hen alaw'n
suo'r gwenith mewn brithlaw,
cyn i ordd traffordd ddod draw.
3ydd R. J. Rowlands, Y Bala, Gwynedd
Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis
Y ddawn arall, Ddinorwig, a erys
I egluro 'chydig
O hanes y graig unig
Yn nwylo doe, heb ddal dig
4. Cerdd yn y Mesur Rhydd: Ymddiheuriad
1af Rhian Jones, Caerdydd
YMDDIHEURIAD
Gair bach i ymddiheurio
am yr incident nos Lun.
Fe wedodd Gwen ei bod yn fenyw
sengl � heb un dyn..
A wedi deuddeg peint o stowt
Rôn ni'n teimlo braidd yn randi
A pan ddâth Gwen i weud helo
rôdd hi'i weld yn bishyn handi.
Ar ôl stop tap, syniad Gwen
ôdd mynd i rannu tacsi
Ac yn y bac fe wedodd hi
ym mod i'n ddiawl bach secsi.
Wel � ôn ni'n falch, smoi wedi câl
Shwt gompliment ers ache.
(Ma'r bola, moelni a'r B.O.
Yn niwsans ar adege.)
Fe wedodd Gwen bod ofn 'da hi
Fynd mewn i'r tŷ heb gwmni
Bod ofn tywyllwch arni hi
A'r letrics wedi torri
Felly mewn â ni a Gwen
yn cynnig coffi a digestive.
A bant a hi i'r gegin fach
gan siglo yn suggestive.
Wel ar ôl cwarter awr fe ddâth
hi nôl heb sôn am goffi
mewn negligee see through (un pinc)
yn gofyn "Wyt ti'n hoffi?"
A cyn i fi gâl gweud dim byd
Fe neidiodd ar yng nghefen
Gan ddweud i bod hi heb gâl dyn
Ers nineteen ninety seven
Gofynodd os y licen fynd
lan llofft i gambyhafio
A dyna pryd y des ti mewn
A dyna'i gyd wi'n cofio.
Wi'n gobeithio rhyw ddydd y galli di
Fadde i fi yn actions
Ac y gallwn fynd am ddrinc neu ddau
Ar ôl dod mâs o'n tractions.
2il John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys
YMDDIHEURIAD
(I Miss Meinwen Ruddock, Trefnydd yr E-steddfod)
Rwy'n ŵr edifeiriol, Miss Ruddock, a heno
Mewn sachliain a lludw rhaid im ymddiheuro.
Bum wrthi'n 'sgrifennu yn ddyfal bob diwrnod,
Er mwyn anfon rhyw bennill neu ddau i'ch E-steddfod.
Ond er chwysu am ddyddie, nid oeddwn yn llawen,
Ches i fawr iawn o hwyl, ac fel giliodd yr awen.
Roeddwn wedi gobeithio rhoi cais am y gader,
Ond 'rôl 'sgwennu dwy linell mi ges gryn anhawster.
Roedd yr englyn 'sgrifennais yn rhywbeth go ryfedd,
Roedd iddo bum llinell, a dim sôn am gynghanedd.
A'r beddargraff doniol a 'sgrifennais i'r cadno,
Wrth i mi ei ddarllen, fe wnaeth i mi grio.
Ond er nad oedd dim siâp ar fy nhraethawd na'm pennill,
Fe 'sgrifennais i limrig sydd yn siwr dduw o ennill!
Ar ôl gorffen y campwaith, es ati i'w deipio,
Ond y dam cyfrifiadur oedd 'nawr ddim yn gweithio.
A'r wraig yn gwneud hwyl am fy mhen, ac yn crechwen,
"Wnaiff y printer ddim gweithio os yw'r inc wedi gorffen!"
'Rôl bod wrthi am deirawr yn ffidlan a diawlio,
Fe lwyddais i gael yr anghenfil i brintio.
Ac fe dreuliais y noson yn teipio fy limrig �
Mae printio'r fath gampwaith yn waith manwl a phwysig.
Nid yw fy ngwybodaeth o'r dechnoleg yn berffaith,
A diflannodd fy limrig o'r sgrîn fwy nag unwaith.
Ond cyn hanner nos fe lwyddais i'w brintio,
A 'nawr daeth y gorchwyl o geisio'i e-bostio.
Bum wrthi yn clicio'r llygoden yn ddyfal �
Ar ôl creu y fath gampwaith, rhaid cymryd pob gofal.
Ond rhyw fwg ddaeth o'r peiriant, ac es i i banig;
Doedd y blwmin mashîn ddim am anfon fy limrig!
Er ceisio am oriau i drwsio'r anghenfil
Fe ddiflannodd fy limrig am byth mewn i'w grombil!
A 'na pam, Mrs Ruddock, rhaid im ymddiheuro
Am ei fod e yn hwyr, a'i fod e mewn beiro.
3ydd Dim Cystadleuaeth
5. Pennill Beddargraff Doniol: Agored
1af Roy Davies
BEDDARGRAFF DYN GWELY A BRECWAST
Cei heno fynd i'th 'lety'
Ac ar dy gefn i'r 'gwely'
Heb gyffro mwy, `does unrhyw hast
Am frecwast bore fory.
2il Arwyn Thomas, Casnewydd
BEDDARGRAFF CHWARELWR
Yma mae'n gorwedd Mari Jane fwyn,
Gwraig hynod o hoff o bowdro ei thrwyn,
A Ianto'i hail ŵr � aeth hwn at ei wraig
Tra wrthi un bore yn powdro rhyw graig.
3ydd W. D. Evans, Llanrhystud, Ceredigion
O! tawed yr utgorn �
Mae mor esmwyth fan yma,
Os daw galwad eto
Falle codai'r tro nesa
6. Limerig: Wrth ddringo i'r llwyfan ar frys ...
1af Anwen Mai Pierce, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Wrth ddringo i'r llwyfan ar frys
I ganu'r Dymestl â blys,
Fe faglodd y Diva;
Teimlwyd gwefr drwy Gwm Rhondda
A chryndod ar fynydd Pen-Rhys.
2il John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys
Wrth ddringo i'r llwyfan ar frys,
Roedd Mari yn domen o chwys;
Peth ffôl ydoedd mentro
Ar yr unawd contralto
Ar ôl awr yn y gwely 'da Rhys.
3ydd John R. Morris, Llanrhystud, Ceredigion
Wrth ddringo i'r llwyfan ar frys,
Fe faglodd a thorri tri bŷs,
Aelodau St John
A'i tendiodd yn llon
Ond methodd a theipio am fis.
7. Haiku: Ieuenctid
1af R. J. Rowlands, Y Bala, Gwynedd
Ti biau heddiw,
Yfory cei fyfyrio
Ar olion dy draed.
2il Mary B. Morgan, Llanrhystud, Ceredigion
Bywyd llawn asbri
A dim byd yn ei poeni
Pob peth ddaw yn rhwydd
3ydd Margaret Jones, Rhiwbeina, Caerdydd
Adfeilion bwthyn
diflanodd ei ieuenctid.
I'r dre - i'r ddinas.
8. Tri chwpled, caeth neu rydd i unrhyw dri adeilad gwahanol yn Amgueddfa Werin Cymru
1af Myfi Evans, Llanrhystud, Ceredigion
YSGOL MAESTIR
Ni ddaw cobs y seddau cefn
I hindro ei chyfundrefn.
EGLWYS LLANDEILO TAL-Y-BONT
Ei bennu raid beth bynnag
Er mai dwys gweld Eglwys wâg.
TŶ GWAITH MAENTWROG GWYNEDD
Heb gae ni ddaw'r cynhaeaf
Pe bai'r Flwyddyn yn un haf.
2il John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys
BWTHYN LLAINFADYN
Os cyfyng yw dy furiau plaen,
Fe brofaist rin hen oes o'r blaen.
FFERMDY HENDRE'R-YWYDD UCHAF
Bu'n sefyll am ganrifoedd yn ei fro;
Mae naws y Canol Oesoedd dan ei do.
CAPEL PENRHIW
Buost, os bychan yw dy faint,
Yn dyst i genadwri'r saint.
3ydd John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys
YSGOL MAESTIR
Ynddi bu'r plant yn troedio llwybrau dysg;
Roedd parch i'r gwych a'r gwachul yn eu mysg.
SIOP GWALIA
O'i mewn, mae'r silffoedd gorlawn ar bob tu,
Trysorfa o ryfeddodau'r oes a fu.
CAPEL PENRHIW
Ynot bu'r gwladwyr yn cael blas
Ar brofi rhin y ddwyfol ras.
9. Brawddeg neu Frawddegau a phob gair yn dechrau â'r llythyren D, DD neu O
1af Mrs Dilys Morgan, Waunfawr, Aberystwyth
Daw dyddiau dedwydd drwy dyner drugaredd Duw.
2il Carys Briddon, Tre'r-ddôl, Machynlleth
Diflannodd dynion dan donnau difesur. Dioddefaint difrifol daenwyd dros diroedd di-gysgod. Dyddiau digalon deimla'r dynion-di-gartref, dim dillad, dim diod, DIM. Dyna drychineb dirdynnol.
3ydd John R. Morris, Llanrhystud, Ceredigion
Deddfau Duw drecha'r Diafol.
10. Brawddeg o'r llythrennau yn y gair MABOLGAMPWR
1af John R. Morris, Llanrhystud, Ceredigion
Mae ar Blair ofn lecsiwn gynnar achos mae'r pôlau-piniwn wedi'i rybuddio
2il R. J. Rowlands, Y Bala, Gwynedd
Mae ambell batrwm o'i le gennym ac mae'r plan wedi rhacsio.
3ydd Myfi Evans, Llanrhystud, Ceredigion
Mae ambell bwl o lawenydd gyfwerth â moddion pan wynebwn rwystrau
11. Dychangerdd: Unrhyw destun cyfoes
1af John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys
AROLYGWYR EI MAWRHYDI
Rhown air o ganmoliaeth i'n gwych Arolygwyr,
Sy'n cyflawni eu gwaith mor fanwl a thrylwyr;
Cânt groeso twymgalon pan ddônt i ymweled,
A bydd pawb yn eu disgwyl â breichiau agored;
Maent yn griw mor garedig, ac o, mor ystyriol,
Edrychir ymlaen at eu gweld ym mhob Ysgol.
Fe wyddant yn iawn sut mae Ysgol yn gweithio,
Roedden nhw yn athrawon cyn iddynt riteirio;
Aberthu eu gyrfa heb ddim hunanoldeb,
Fel y cawn ni fanteisio o ffrwyth eu doethineb;
Pwy feiddiodd â lledu rhyw si angharedig
Fod nifer ohonynt yn athrawon ffaeledig?
Cyn iddynt ymweld bydd pawb wrthi'n ddeheuig,
Rhaid cael popeth mewn trefn i ymwelwyr mor bwysig;
Gorchuddir pob wal â phosteri a lluniau,
Rhag iddyn nhw weled y tyllau a'r craciau;
Gofalu fod toiled y gwragedd yn sgleinio,
Rhag ofn iddynt fentro i mewn a'i ddefnyddio.
Mae llwyth o ddogfennau y bydd raid eu cynhyrchu,
O bolisi iaith i bolisi 'smygu;
A phan ddônt i'w nôl bydd eu coesau yn gwegian
Wrth iddynt fynd adref i ddarllen y cyfan;
Rhaid eu canmol yn wir am wneud y fath aberth,
Am fod mor gydwybodol ac am fynd i'r fath drafferth.
A phan ddaw'r Mercedes drwy glwydi yr Ysgol,
Bydd pawb yno'n barod i'w cyfarch yn siriol.
Ar ôl parcio y Merc wrth Fiesta y Pennaeth,
Aiff pawb tua'r Neuadd er mwyn dechrau'r gwasanaeth;
A'r athrawon yn gweddïo'r aiff popeth yn hwysus
Mewn sioe y bu pawb yn ei threfnu ers deufis.
Ac yna yn syth mynd i weled y dysgu,
Lle bydd athro mawr, cydnerth yn gwelwi a chrynu;
Eisteddant i lawr, â'u gwedd yn ddifrifol,
Gan dremio'n ffroenuchel ar bawb dros eu sbectol;
Pwysicach yw cynllun y wers ar y daflen
Na gweld a all Wili 'sgrifennu a darllen.
Archwiliant yn fanwl bob gwers Fathemateg,
A rhoi'r argraff eu bod yn bencampwyr Technoleg;
Fe nodant wendidau'r holl wersi Chwaraeon,
Gan ddweud nad yw'r wers yn cyflawni'r "Amcanion";
Rhaid i'r gwersi Ysgrythur fod yn gwbl gydraddol,
A bod Islam mor bwysig â'r grefydd Gristnogol.
Caiff pob agwedd o fywyd yr Ysgol eu sylw �
Pwy yw'r plant sydd yn ymddwyn? Pwy yw'r rhai sy'n gwneud twrw?
A yw'r plant yn bihafio wrth fwyta eu cinio?
A yw'r offer yn drefnus? A yw'r clociau yn gweithio?
Cofnodir y cyfan yn fanwl a chywir,
Rhaid i bopeth roir lawr yn y ffeil fod yn eirwir.
Ac yna o'r diwedd, daw dydd y ffarwelio,
A dyna i chi wylo a thristwch fydd yno!
"Mae pawb yn hiraethu o'ch gweld yn ymadael;
Mor braf fu eich cwmni; oes raid i chi adael?"
Ac wrth i'r Mercedes droi cefn ar yr Ysgol,
Mae'r athrawon a'r Pennaeth yn chwifio'n ddagreuol.
Ar ôl rhai wythnosau fe ddaw yr adroddiad,
A ddarllen y jargon yn wir sydd yn brofiad;
Gwersi gwych Mrs Jones oedd yn "eitha boddhaol",
"Da" gafodd Miss Hughes am ei gwersi rhagorol;
Pwysicach o lawer oedd yr holl ystadegau,
A'r ffeithiau bach pitw oedd yn britho'r dalennau.
Ac felly canmolwn ein gwych Arolygwyr,
Sy'n cyflawni eu gwaith mor fanwl a thrylwyr;
Cânt groeso twymgalon pan ddônt i ymweled,
A bydd pawb yn eu disgwyl â breichiau agored;
Maent yn griw mor garedig, ac o, mor ystyriol,
Edrychir ymlaen at eu gweld ym mhob Ysgol.
2il William John Evans, Gwauncaegurwen, Rhydaman
GWAITH GLO'R BETWS
Wele'n cychwyn tair ar ddeg
O ddramiau gwag ar fore teg,
Wele'r ridwr dewr ei fron
Yn rido ar y siwrne hon.
Mynd y mae a mynd fel meil
Ac ambell waith ai dros y reil,
Tynnu pwynt mae at y ffas
Gan groesi ambell jolcyn cas.
Ac wedi cyrraedd parting dwbwl
Yn sicr iawn fydd na drwbwl
Rhaid cico latsh a newid rhaff
A hitsho'r 'bar' � hook � cael bod yn saff.
Os bydd rhwystr fydd na grio
A'r "dep" yn wrni "sneb yn trio"
A'r ridwr yn shaclo yn y llacs
A'i ddillad yn yfflon, fel jack � racs.
I lawr y "chute" fe ddaw y glo
Ar drams yn llawn un ar y tro,
Ac wedi llawn y siwrne i gyd,
Dwed y dymper, "diawch na speed".
Twl miwn, Twl miwn yw rhyddm y ffas
Ac ambell waith, cewch glywed rheg gas
Ond hefyd, fe glywir pwtin o gan
Wrth dwllu a rhodio ynghanol glo man.
Braf yw edrych at ddiwedd shift
Lan ar y "spake" a mwgin bach swift
Off a'r belt, y lamp a'r mask
A un swig arall a waelod y flask.
Off a'r got, ac off a'r crys,
Off a'r vest sy'n botsh o wys,
Dan y shower i gael bath
Bydd dynion yno bron pob math.
Rhai bach a mawr, tene a tew
Rhai yn foel a rhai llawn blew.
Y sebon a'r clwtin yn rowndo bob man,
Dod allan o'r bath bydd pawb yn lan.
Draw i'r Ty Coch i gael diferyn o gwrw
Efallai peint neu ddau heb fawr o stwrw.
Lawr i'r heol i ddala bws
A mynd tua thre neb fawr o ffws.
Diolch am lofa fel gwaith y Betws
Cymraeg sydd i'w glywed bron bob sgwrs;
Glowyr ydym o Ddyffryn Aman
A chyfeillion hefyd wedi'r cyfan.
3ydd Dim Cystadleuaeth
12. Traethawd/Ysgrif: Atgofion am Drafnidiaeth y Gorffennol yn eich ardal. E.e. effaith trafnidiaeth ar fywyd pob dydd; trafnidiaeth gyhoeddus; cerbydau masnachol; tripiau ysgol sul; y garej leol
1af W. J. Jones, Caerdydd
Cydradd 2il Carys Briddon, Tre'r-ddôl, Machynlleth
Cydradd 2il Arwyn Thomas, Casnewydd
CYSTADLAETHAU YN Y SAESNEG
13. Poem: Peace or War
1af David G. Jones, Ottowa, Canada
Peace and War
One time, people were driven by their own needs
and they would do, what they had to do
so they would need no more.
Then people learned that if they lived with other people
that work could be shared, and they could be protected
from those who were driven by need.
But people who live with other people need rules -
and groups of people who relate to other groups of people need rules -
so that the well being of the whole does not suffer from those in need.
And in these more settled times, it was found that there are people
who will from time to time break the rules;
and there are also people who never follow any rules,
because they place their needs above all else.
Both the learned and the unlearned, wrestled to find a way
that people can live without the breaking of rules.......
so that a better world might be founded,
where there was no need for rules.
But no means was found
for people to live with people, without the braking of rules. And we have war.
And now we need, all of us, to find a way that we can create a world without
fear,
a world without fighting.
These needs are not only of Northerners. Or those of the West. Or of the farmer,
or
the fisherman
These needs are not only of dark-hued nomads of Asia, or black herders of Africa
These needs are not just that of bankers of Egypt or brokers of the Steppes.
These needs are shared among all of us.
But despite the will. Despite the work. Despite the suffering and agony....
wars are waged. Battles are fought. Friends fight. Families break up.
Why should that be?
Could it be that in our hopes and aspirations
we have been unwilling to do what must be done?
Perhaps we do not even know what that might be. Is it possible..
that the solution to our malaise lives within us?
If that can be, then we must look to ourselves
we must look within ourselves,
and follow the course that we may find there........
We shall have to learn where to look.
In the new times to come, if they are to come,
there must be denial.
And there must be giving up, instead of taking away.
And the denial must be deep, and meaningful.
What is given up, must be of that which is most sacred and valued.
When the other sees the highly valued offered
that the gift is made without condition;
when the other sees that nothing is asked in return,
a beginning will have been made.
And what of Peace?
Well, Peace is more than an agreement not to wage war.
and it is more than a time between wars.
and it is more than forcing peace through the threat of war,
and more than forcing an end to war through the threat of even more war.
There is Peace when it is understood that there is everything to gain from Peace,
and there is nothing to gain from war.
And we shall not see Peace
until we are willing to offer up that which we hold most dear.
2il William John Evans, Gwauncaegurwen, Rhydaman
POVERTY
Poverty hovers in mid air
Here, there and everywhere,
It reaches out with each hand
Casting a shadow on every land.
Poverty stands guard day and night
Ready to smite with power and might
It mocks and jeers at every race
And spits with venom in their face.
Poverty also the rich can feel
Denied of an offspring to utter a squeal,
Silver and Gold They may have galore,
But poverty also is well to the fore.
Poverty, like a vulture ready to pounce
Where every meal is less than an ounce.
The menu reads the same every day
That faith and hope may come their way.
Poverty can rob a nation of its name
And plunge mankind into shame.
Each shot and shell find its mark
Poverty rises so nude, so stark.
Poverty causes misery and pain
As drug after drug jabs a vein,
Thrills and kicks they try to get
Poverty again casts its net.
Poverty is knowledge, denied to grasp
As culture lies dormant, waiting to clasp
You strive to attain a standard high
But droop and sag like broken rye.
Poverty was thrust on the Son of God
Born so humble to become our Lord
His wealth He gave to you and me,
When crucified on the Cross at Calvary.
3ydd Leonard Shurey, Caerffili
PEACE OR WAR
Is this a choice?
A little stark I think
Are we safe and far inshore?
Or standing on the brink?
"Peace in our time"
A paper wish may be
Not a rock of sure repose
But transient as a flea
What some call peace
Perhaps it may be not
But just a bobbing cover
Atop a seething pot
And war a balm
Of precious blood and toil
That lifts the lid a little
To quench the hideous boil
So for a time
We sweetly quaff the brew
Ale, potent, soporific
That spoils our judgement true
To wake perchance
In presence of our foe
Unprepared and helpless with
No staff, no sword, no bow
And peace or war
If choice it is indeed
Blends equally as well then
With brave or coward's creed
If war be won
Then we are not at ease
Lest our heads of state and we
Go out and conquer peace
14. Humorous Epitaph
1af David G. Jones, Ottowa, Canada
Here would lie
John Jones
If we could
catch up with him.
2il Leonora Brooks, Church Village, Pontypridd
'God stopped play � no injury time.'
3ydd Dr. E. Wyn Roberts, Vancouver, Canada
Here lies a queer old man,
Killed by his wife with a frying pan.
Caught him kissing another male,
Now he's here and she's in jail.
15. Limerick: A Methodist preacher called Glyn ...
1af Leonard Shurey, Caerffili
A Methodist preacher called Glyn
Kept his greyhound incredibly thin
Therefore down on the track
With a wind at its back
It finished each race with a win
2il John Meurig Edwards, Aberhonddu, Powys
A Methodist preacher called Glyn
Once had an identical twin,
And when they were out,
The people would shout:
"Which one of you's hooked on the gin?"
3ydd Lynda Ganatsiou, Groeg
A Methodist preacher called Glyn,
with his parishioners he was well in,
'til his girlfriend from Leicester
took a pregnancy tester,
confirming he'd committed a sin!
16. Six couplets on the theme: Welsh Industry
1af Caroline Gill, Killay, Abertawe
Yes Sir, now Sir ...
Dre-Fach Felindre have you any wool?
Yes Sir, now Sir, our looms are full.
Dinorwig Quarry, have you any slate?
Our tiles on show were considered first rate.
Penclawdd cockle women, has the water ebbed?
Ducks still dabble, but their feet are webbed!
Abernethy dockyard, have you any ships?
Copper days are past, but we run boat trips.
Tower Colliery, have you any coal?
Yes Sir, we�ve scored our triumphant goal.
Regeneration is the name of the game -
a fine Welsh phoenix flies out from the flame.
2il David G. Jones, Ottowa, Canada
In far-gone times we tilled the soil
Then coal and steel was our main toil.
And where the soil was not so good
Sheep ranged, for our clothes and food.
While artisans sewed and built and carved
Artists performed, and almost starved.
There were shops to run and children to teach
Wood to cut, and fish to reach.
Today what we work at is all quite new:
what once took thousands, now takes few.
For technology has tipped the scales -
And from young minds, comes the wealth of Wales.
3ydd Martin Locock, Gwauncaegurwen, Rhydaman
Once the ports kept freighters full
Of iron and coal, slate and wool
Marinas occupy the docks
With bistros and apartment blocks
Where a factory used to stamp and rage
Now there's an annual car-rally stage
Railway tracks grow dull with rust
The rotting trucks are filled with dust
Hands fall idle for want of tasks
"What of Welsh industry?" someone asks
The answer is becoming clear:
It would be a good idea.
17. Haiku: Youth
1af Martin Locock, Gwauncaegurwen, Rhydaman
Spring lambs jump for joy
Heedless that their destiny
Is to become sheep
2il Caroline Gill, Killay, Abertawe
small feet in wetsuits
spin through the crest of a wave
as mermaids emerge
3ydd Lynda Ganatsiou, Groeg
The beauty of youth
is painted on your body.
Wear it gracefully.
18. Short Poem (of no more than 20 lines): Apology
1af Martin Locock, Gwauncaegurwen, Rhydaman
Sorry I can't help you now
Sorry I can't help you
Sorry I can't help
Sorry I can't
Sorry I
Sorry
2il David G. Jones, Ottowa, Canada
If I
in a fog of befuddlement
with feet in mouth
and all senses closed
sad, and desolate
did not grasp the significance
or even
have the remotest sense
of how important this evening was
to you
I am sorry.
3ydd Dr. E. Wyn Roberts, Vancouver, Canada
All my life I was a sinner,
Always loser, never winner.
Smoked cigarettes, cigars a lot,
Including opium and some pot;
Drank and drank and drank again -
My clothes a single beery stain;
Stole from here and stole from there
Didn't matter - anywhere.
Womanised more than I ought,
By many a husband often caught;
Beaten to a bloody mess -
Should have learnt to do that less;
Cheater, liar - charming, sunny -
Me apologise? That's really funny!
19. A Sentence or Sentences with each word beginning with the letter S
1af Dona Baines, Y Bala, Gwynedd
Sally sails singlehanded since Simon suddenly sank.
2il Glyn Heddwyn, Trawsfynydd, Gwynedd
Seven sharks. smooth silver shadows, silent steely shapes, slowly swimming seaward
3ydd Clare Howells, Llanuwchllyn, Bala, Gwynedd
Sammy snail slid silently southward,
Susie slug slept sound.
Sammys shell shone softly, seductively,
Susie slumbered still.
Stretching squelching, Susie sensed Sammy
Smiled slowly slimey soulmates!!
20. Essay/Article: Memories of Transport in the past in your
home area.
E.g. the impact of transport on everyday life; public transport,
commercial vehicles, Sunday School trips, the local garage.
1af Lynda Ganatsiou, Groeg
2il Gwyndaf Breese, Caerdydd
Cydradd 3ydd Leonora Brooks, Church Village, Pontypridd
Cydradd 3ydd David G. Jones, Ottawa, Canada









