Trywydd Trydar - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Dyma gêm ryngweithiol ar gyfer unrhywun sydd â chyfrif Twitter a Smartphone, iPod touch neu gyfrifiadur llechen. Gan ddatrys cliwiau ar hyd y daith, byddant yn dilyn y trywydd o gwmpas y 15 oriel.
Bydd angen y canlynol arnoch chi i chwarae'r gêm:
- Smartphone, iPod Touch neu gyfrifiadur llechen
- Cyswllt â'r we (3G neu Wi-Fi - cofrestrwch am gyfrif Wi-Fi am ddim yn y dderbynfa.)
- Cyfrif Twitter byw — bydd yn rhaid i chi ddilyn @wfmHT
- Map a Chanllaw Ymwelwyr
Gair o gyngor:
- Mae 14 cwestiwn i'w hateb.
- Bydd dilyn y daith a gynigir yn y Map a Chanllaw Ymwelwyr o gymorth.
- Mae pedwar cliw yn cael eu trydar ar gyfer pob cwestiwn.
- Mae ateb pob cwestiwn yn rif 4 digid, e.e. blwyddyn.
- Cadwch lygad am y sticeri Trywydd Trydar glas.
Pob lwc!
Mae croeso i chi holi un o'r Cynorthwy-wyr Orielau am gymorth os ydych chi'n cael trafferth.









