Sesiynau Wedi'u Hwyluso - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Mae’r sesiynau canlynol yn berthnasol i astudiaethau craidd y pedair elfen ar gyfer Cymru, Ewrop a’r Byd ar bob lefel astudio.
Diwydiant Cerddoriaeth
Pwrpas yr ymweliad yw astudio sut mae cerddorion ac artistiaid Cymreig yn gymorth i gyfleu hunaniaeth Gymreig yng Nghymru a thu hwnt.
Bydd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint gan Ian Smith, curadur Diwydiant Modern a Chyfoes, am ddiwydiant cerddoriaeth Cymru, treftadaeth a diwylliant cerddorol a thaflen waith i’w defnyddio yn orielau’r Amgueddfa sydd â themâu cerddorol.
Diwydiant Chwaraeon
Pwrpas yr ymweliad yw astudio sut mae digwyddiadau a llwyddiannau chwaraeon mawr wedi bod o gymorth i newid delwedd Cymru ar draws y Byd.
Bydd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint gan Ian Smith, curadur Diwydiant Modern a Chyfoes, am ddiwydiant, treftadaeth a diwylliant chwaraeon Cymru ynghyd â thaflen waith i’w defnyddio yn orielau’r Amgueddfa sydd â thema chwaraeon.
Diwydiant Peirianneg
Pwrpas yr ymweliad yw astudio’r sialensiau sy’n wynebu diwydiant o ganlyniad i newid economaidd a thechnolegol cyflym ac archwilio etifeddiaeth y gorffennol.
Bydd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint gan Ian Smith, curadur Diwydiant Modern a Chyfoes, ar Llandarcy dan y teitl Hyd y Diferyn Olaf, gyda sesiwn cwestiwn ag ateb i ddilyn ynghyd â thaflen waith ar fetelau a pheirianneg i’w defnyddio yn orielau’r Amgueddfa.
Ymweliadau Ymchwil Heb ei Hwyluso ar gyfer A/S a Lefel A
Pwrpas yr ymweliad yw astudio’r sialensiau sy’n wynebu diwydiant o ganlyniad i newid economaidd a thechnolegol cyflym ac archwilio etifeddiaeth y gorffennol.
Bydd yr ymweliad yn cynnwys cyflwyniad PowerPoint gan Mandy Westcott, y Swyddog Addysg, dan y teitl Beth Adawodd y Gorffennol i Ni, gyda sesiwn cwestiwn ac ateb i ddylyn ynghyd â nodiadau oriel fydd yn gymorth i ymchwilio heb arweiniad yn yr orielau.
Sesiwn Newid Economaidd a Thechnolegol
Pwrpas yr ymweliad yw astudio’r sialensiau sy’n wynebu diwydiant o ganlyniad i newid economaidd a thechnolegol cyflym.
Mae’r ymweliad yn cynnwys sesiwn gan actor cymeriad yn portreadu bywyd gweithwyr diwydiannol yn y gorffennol ac effaith newidiadau economaidd a thechnolegol ar deuluoedd a chymunedau diwydiannol. Mae llyfryn yn cyd-fynd â’r gwaith i’w ddefnyddio yn orielau’r Amgueddfa yn canolbwyntio ar effaith newid rôl y fenyw yn y cartref a’r gweithle yn y Gymru ddiwydiannol.
Ymgyrch
Mewn partneriaeth â phroject y Llyfrgell Brydeinig Campaign! Make an Impact, bydd myfyrwyr yn dysgu am ymgyrch hanesyddol. Byddant yn cymryd rhan mewn sesiwn actor cymeriad ar Achosion Copr Mawr Abertawe yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byd llyfryn gwaith ar y diwydiant copr ar gael i fyfyrwyr ei ddefnyddio o amgylch yr orielau. Yn dilyn hyn, ceir cyflwyniad PowerPoint gan Mandy Westcott, y Swyddog Addysg, am ymgyrchoedd cyfoes am leoliad ffermydd gwynt yng Nghymru a’u heffaith economaidd. Bydd llyfryn gwaith ar ddatblygiad gwahanol fathau o ffynonellau ynni ar gael i fyfyrwyr ei ddefnyddio yn Oriel Ynni yr Amgueddfa.
I archebu lle, cysylltwch â Mandy Westcott ar (029) 2057 3611 neu drwy E-bostio Mandy Westcott.









