Gweithdai i Deuluoedd Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru



2pm bob dydd Sadwrn a dydd Sul (yn ystod tymor ysgol)
11 - 4 bob dydd yn ystod gwyliau ysgol

Ymunwch â ni i ddysgu am bopeth o ffosilau i ddeinosoriaid, planhigion, anifeiliaid neu fywyd yn y gorffennol. Bydd y sesiynau’n amrywio ond byddan nhw’n cynnwys darn dysgu a gweithgaredd crefftau fel arfer.

Gweithdai yn cynnwys:

Masgiau Anifeiliaid

Archwiliwch anifeiliaid o’n casgliadau a gwneud masg anifail y fynd adref gyda chi.

Ditectif Bywyd Gwyllt

Gall bywyd gwyllt fod dan ein trwynau, hyd yn oed os na allwn ni ei weld. Dysgwch sut i adnabod y cliwiau y bydd anifeiliaid yn eu gadael a gwnewch eich stamp ôl troed eich hun.

Celf Celtaidd

Astudiwch hanes Celtaidd drwy edrych ar batrymau a symbolau Celtaidd; dysgwch sut i dynnu eich symbolau Celtaidd eich hun.

Deinosoriaid Pluog

Roedd rhain yn greaduriaid pwysig, ond sut olwg oedd arnyn nhw? Rhowch eich barn a gwnewch ddeinosor pluog i fynd adref gyda chi.

Ailgylchu Gemwaith

Dysgwch fwy am y newid yn arddull gemwaith drwy hanes a rhoi cynnig ar greu eich gemwaith gwych eich hun tra’n ein helpu ni i ailgylchu.

Creu Lliw

Gadewch i waith celf yr Amgueddfa eich ysbrydoli. Dysgwch sut y bydd artistiaid yn arbrofi â lliw a chrëwch eich gwaith celf eich hun.

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Adran addysg:
(029) 2057 3240

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.