Printiau a darluniau - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
O Rembrandt i Gwen John; Turner i Lucian Freud a Cézanne i Graham Sutherland — mae’r casgliad gwaith ar bapur yn gyfoethog ac yn amrywiol.
Gydag oddeutu 30,000 o weithiau unigol, mae’n cwmpasu ystod eang o gelf graffig Ewropeaidd ac mae celf Brydeinig a Chymreig yn gryfder penodol.
Mae’r casgliad yn amrywio o gampweithiau sy’n cael eu harddangos i frasluniau cychwynnol, yn ogystal â llyfrau ac albymau braslunio.
Mae’r casgliad printiau hefyd yn amrywiol iawn ac yn cynnwys engrafiadau cynnar, portffolios gan artistiaid cyfoes, printiau topograffaidd Cymreig a phortreadau.
Mae gennym ni ffotograffau hefyd gan gynnwys printiau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a phortreadau cyfoes.
Mae gwaith ar bapur yn agored i niwed gan dymheredd, lleithder a golau, felly maent yn cael eu harddangos dan amgylchiadau a reolir am gyfnodau penodol.
Cadwch lygad allan am ein harddangosiadau newidiol yn yr orielau. Gallwch chi hefyd weld gweithiau trwy drefnu ymlaen llaw i ymweld â’r Ystafell Astudio Printiau a Darluniau. Mae croeso i unigolion a grwpiau.
Does dim ffordd well o ddeall artist na thrwy uniongyrchedd ei frasluniau a darluniau.
Rydyn ni’n gweithio tuag at gyhoeddi catalog o’r casgliad arlein, ond yn y cyfamser mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiadau neu i drefnu apwyntiad, ar (029) 2057 3232 neu ebostio Printiau a darluniau
[delwedd: Paul C�zanne, The Diver, about 1865-67]
Paul Cézanne, The Diver, about 1865-67
Watercolour, bodycolour and pencil on paper
[delwedd: ]
Ystafell Astudio Printiau a Darluniau