Darganfod Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Bydd y sesiwn 1 awr* hon yn gyfle i blant ddod i ddeall gwrthrychau amgueddfa real a replica drwy archwilio ar eu liwt eu hunain.

Amlinelliad o'r Gweithdy:

Gweithgaredd Cyswllt Cwricwlwm

Amser

Gwaith cylch lle y byddwn yn trafod beth mae'r plant yn ei wybod yn barod am amgueddfeydd a'u gwaith.

Trafod pam na allwn ni drin gwrthrychau amgueddfa fel arfer a rôl labeli a phaneli gwybodaeth mewn orielau.

Iaith, llenyddiaeth a chyfathrebu.

Gwybodaeth am a dealltwriaeth o'r byd

10 mun

Archwilio – y plant yn archwilio casgliadau'r oriel drwy ddefnyddio chwyddwydrau a microsgopau.

Gwybodaeth am a dealltwriaeth o'r byd

20 mun

Dewis a labelu – bydd disgyblion yn dewis un gwrthrych o'r oriel i'w arddangos yn 'amgueddfa'r dosbarth'. Byddant yn defnyddio'r deunydd ymchwil yn yr oriel i greu label deniadol ar gyfer y gwrthrych.

Datblygiad creadigol

Iaith, llenyddiaeth a chyfathrebu.

20 mun

Amgueddfa'r dosbarth. Pan fydd y gwrthrychau i gyd wedi'u gosod yn amgueddfa'r dosbarth bydd y disgyblion yn cael eu hannog i rannu eu hoff wrthrychau gyda'u cyfoedion.

Iaith, llenyddiaeth a chyfathrebu

5 mun

*gellir amrywio amseroedd yn unol â gofynion y grŵp

Gall y sesiynau darganfod ddilyn thema hefyd, gyda phwyslais ar wrthrychau penodol yn ein casgliad. Yn y gorffennol, rydym wedi cynnig sesiynau thematig ar gerrig, deinosoriaid, llosgfynyddoedd, esgyrn a phenglogau, bwystfilod bach a glan y môr. Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech chi astudio thema yn fanylach.

Yn yr ysgol – rhai syniadau am waith dilynol

Amgueddfa Fach

Gofynnwch i'r plant ddod â gwrthrych diddorol o'r cartref i'w arddangos mewn amgueddfa fach, e.e. rhywbeth o wyliau tramor neu ddiwylliant gwahanol, pethau naturiol fel cragen fawr neu hen bethau fel gêm neu ffotograffau. Gofynnwch i'r plant ysgrifennu eu label eu hunain yn esbonio pam fod eu gwrthrych yn ddiddorol neu'n bwysig.

Archwilio gwrthrychau

Gellid gwneud y gweithgareddau canlynol gan ddefnyddio gwrthrychau o'ch amgueddfa fach, neu grŵp o eitemau wedi'u dewis. Gellid defnyddio ffotograffau o wrthrychau hefyd.

Trefnu

Rhannwch y plant yn grwpiau bychain a rhowch ddetholiad o wrthrychau iddynt (ceisiwch ddefnyddio cymysgedd o wahanol ddeunyddiau, siapau a lliwiau). Rhowch 'gylchoedd trefnu' i'r grwpiau (cylchoedd bach plastig, platiau papur, neu gortyn ar siâp cylch hyd yn oed). Dylent rannu'r gwrthrychau yn gategorïau gwahanol. Mae hon yn ffordd wych i blant ymarfer sgiliau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau. Ar ddiwedd y sesiwn, gofynnwch i bob grŵp ddangos eu penderfyniadau a'u hesbonio i'r dosbarth. Trafodwch y dulliau gwahanol o benderfynu, efallai y bydd rhai grwpiau yn dewis eu rhannu yn guradurol (deunydd, oed ayb), tra bod grwpiau eraill yn defnyddio themâu. Byddai'r ymarfer hwn yn gyflwyniad da i'r egwyddor o ddosbarthu pethau byw.

Beth ydw i?

Gofynnwch i blentyn ddewis gwrthrych o amgueddfa'r dosbarth (heb ddweud wrth unrhyw un!). Dywedwch wrthyn nhw ddisgrifio'r gwrthrych i'r dosbarth (heb ei enwi). Mae'n rhaid i weddill y dosbarth ddyfalu pa wrthrych sy'n cael ei ddisgrifio. Dewis arall fyddai i'r dosbarth dynnu llun y gwrthrych ar sâl y disgrifiad.

Cerddi Siâp

Mae cerdd siâp yn disgrifio gwrthrych ac wedi'i ysgrifennu yn siâp y gwrthrych. Gofynnwch i'r plant ddewis eu hoff wrthrych o'u hymweliad â'r amgueddfa. Gofynnwch iddyn nhw feddwl am eu rhesymau dros ddewis y gwrthrych a rhai geiriau i'w ddisgrifio. Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu'r rhain mewn 'banc syniadau' ar gyfer eu cerdd. Yna gofynnwch iddyn nhw dynnu amlinelliad o'r gwrthrych ac ysgrifennu eu cerdd yn y siâp.

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Adran addysg:
(029) 2057 3240

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.