Sesiynau a Gweithdai - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Mae Canolfan Ddarganfod Clore yn ofod dysgu ‘ymarferol’ unigryw yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Archwiliwch gannoedd o wrthrychau amgueddfa amrywiol o’n casgliadau, o esgyrn deinosoriaid a phryfed egsotig i arteffactau Rhufeinig a phaent hynafol. Mae’r cyfoeth hwn o wrthrychau amgueddfa yn adnodd delfrydol ar gyfer dysgu drwy archwilio a darganfod. Mae’r cyfle i ymdrin â’r gwrthrychau yma yn brofiad dysgu llawn symbyliad.
Gellir archebu’r oriel ar gyfer ymweliadau dan arweiniad athro. Rydym yn argymell eich bod yn ymweld â’r ganolfan eich hun ymlaen llaw i weld sut y gall ein casgliadau ategu eich amcanion dysgu.
Gallwch hefyd archebu un o’n sesiynau strwythuredig dan arweiniad aelod o staff yr adran addysg. Cliciwch ar y penawdau isod i gael manylion pob gweithdy.







