Pecyn Diwrnod i Ddirprwyon
[delwedd: ]
[delwedd: ]
Mae'n bleser gennym gynnig pecyn arbennig diwrnod i ddirprwyon am £25 yn gynnwys TAW y pen ar sail o leiaf 10 person.
Mae'r pecyn yn cynnwys:
- Llogi Ystafell Gyfarfod y Ddinas neu'r Glannau rhwng 9am a 5pm
- Defnydd o'r sgrin, taflunydd data, gliniadur a siart droi
- Dewis o de Cymreig, ffrwythau a pherlysieuol, coffi ffres, dwr mwynol Cymreig oer a dewis o fisgedi wrth gyrraedd ac eto ar gyfer te deg
- Dewis o frechdanau sawrus ar fara gwyn neu frown garw, ffrwythau ffres i ginio gyda dwr mwynol Cymreig oer a sudd oren
- Rownd arall o de Cymreig, ffrwythau a pherlysieuol, coffi ffres, dwr mwynol Cymreig oer a phice ar y maen blasus â llwch siwgr sinamon ar gyfer te prynhawn
- Powlenni o losin ar gael drwy'r dydd
Os bydd llai na 10 o ddirprwyon gennych, byddai'r Amgueddfa'n hapus i gynnig llogi'n cyfleusterau i chi yn ôl ein cyfraddau llogi safonol.
Gellir archebu gwasanaeth arlwyo drwy gwmni arlwyo masnachfraint yr Amgueddfa, Elior Ltd.