Rydych chi yn: Hafan > Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru > Am yr amgueddfa > Canolfan addysg y Tŷ Gwyrdd > Blog
English

Blog

Tŷ Gwyrdd

Diwrnod Byw yn Wyrdd!

Postiwyd gan Lowri Griffiths ar 8 Tachwedd 2011
Wele! Y Goeden Byw yn Wyrdd yn llawn addewidion gwyrdd.
Mae Joanna a Stepahnie am fyw yn wyrdd!
Mae James yn fachgen gwyrdd iawn ac wedi cytuno gwisgo siwmper cynnes yn amlach i gadw'n gynnes.
Deilen Betsan - i newid bylbiau'r ty i rhai ynni isel.
» View full post to see all images

Helo! Dydd Sadwrn, Tachwedd 5ed cynhaliwyd digwyddiad ‘Byw yn Wyrdd’ yn y T? Gwyrdd.

 

Bwriad ‘Byw yn Wyrdd’ yw cynnig syniadau hawdd a syml ar sut i arbed ynni ac ar yr un pryd arbed arian! O gerdded i’r ysgol, gosod plwg mewn sinc pan yn ymolchi, diffodd y golau pan yn gadael yr ystafell a llawer mwy. Mae hyn mor hawdd a syml!

Am ragor o syniadau syrffiwch draw i'r linc canlynol:: http://tiny.cc/w4iqr

 

Roedd gofyn i ymwelwyr 'Byw yn Wyrdd' ddewis un weithgaredd newydd sbon a chadw ati ar ôl dychwelyd adref.

 

Er mwyn gwneud yn siwr bod pawb yn cadw at eu haddewidion newydd roedd gofyn i bawb eu hysgrifennu ar ddeilen ac yna glynu’r ddeilen ar goeden ‘Byw yn Wyrdd!’

Cyn pen dim roedd y goeden yn llawn addewidion gwyrdd ac yn amrywio o gerdded i’r ysgol, i wisgo siwmper i gadw’n gynnes. Gwych!

 

Mae’n werth crybwyll bod ambell un wedi bachu ar y cyfle i droi’n wyrdd (yn llythrennol) wrth daflyd boa plu gwyrdd a sbectol sgleiniog T? Gwyrdd amdanynt! Am gyfnod roedd hi’n debycach i sesiwn swreal Strictly Come Dancing! Dwi’n amau mai dyna’r tro cyntaf i lechi caled llawr T? Gwyrdd weld camau y tango! Go dda!

 

Diolch yn fawr i bawb ddaeth draw….digwyddiad nesaf T? Gwyrdd yw ‘Nadolig Cynaliadwy’ ar Rhagfyr 3ydd. Cyngor ar sut i wneud eich Nadolig chi yn un gwyrdd a throi eich llaw at wneud eich haddurniadau eichhunan. Os oes ganddoch chi syniadau ar sut i ddathlu’r Nadolig mewn modd cynaliadwy – gallwch drydaru eich syniadau i’r cyfeiriad canlynol:

www.twitter.com/tygwyrdd

 

Diolch yn fawr,

T? Gwyrdd

Hyrwyddwr Hinsawdd yn ymweld â Sain Ffagan!

Postiwyd gan Danielle Cowell ar 15 Medi 2011
Bronwen a teulu Punter o Glunderwen ger Arberth wnaeth adduned i: gerdded a beicio yn amlach, treulio munud yn llai yn y gawod a throi’r thermostat i lawr 1 gradd.
Ffion Isaacs a’i thad-cu Ivor o Gaerllion
Adam a Josh o Solihull
Bronwen gyda Arwel ac Ellis o Milton Keynes.

Mae Bronwen Davies o Lyn Ebwy yn un o Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Treuliodd Bronwen, sy’n 15 oed, y diwrnod yn y T? Gwyrdd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn siarad ag aelodau’r cyhoedd am sut i addunedu i leihau eu hôl troed carbon.

Siaradodd â phobol o bob oed a mwynhau trafod gyda theuluoedd lle gallai rhieni a phlant gynllunio eu camau nesaf gyda’u gilydd. Mae hi wedi bod yn brysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn helpu pobl i ddeall y newid yn ein hinsawdd.

Penodwyd Bronwen yn Hyrwyddwr Newid Hinsawdd ym mis Ionawr wedi iddi ennill cystadleuaeth i ganfod chwe person ifanc allai ddefnyddio eu dylanwad i berswadio eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u cymunedau i gyfrannu at helpu Cymru i leihau ei hôl troed carbon.

Ar 1 Hydref gallwch chi gyfarfod Hyrwyddwr Newid Hinsawdd Caerdydd, Tom Bevan, sy’n 16. Galwch draw i T? Gwyrdd i gyfarfod Tom, addunedu, a dysgu beth allwch chi ei wneud i leihau eich ôl troed carbon.

Dilynwch hanes Hyrwyddwyr Newid Hinsawdd Cymru yn: http://tinyurl.com/3gu535d