Polisi Amddiffyn Plant: Atodiad 6 - Ymddygiad grwpiau yn yr Amgueddfa
Mae'r Amgueddfa am i bob ymwelydd fwynhau eu hamser gyda ni. Felly rydym ni'n disgwyl i'n holl ymwelwyr ddangos cwrteisi a pharch at eraill ac at eiddo'r Amgueddfa bob amser.
Felly ni ddylai arweinwyr grwpiau adael i aelodau eu grwpiau:
- Ymddwyn mewn ffordd fygythiol, difrïol neu dreisgar.
- Bwlio (ar lafar neu'n gorfforol).
- Gwneud sylwadau rhywiaethol, hiliol neu unrhyw sylwadau cas eraill am unrhyw berson neu grŵp arall.
- Fandaleiddio eiddo neu arddangosfeydd yr Amgueddfa.
- Gadael sbwriel ar eiddo'r Amgueddfa.
- Bwydo, cyffwrdd, dychryn neu frifo unrhyw anifeiliaid sydd yno.
- Mynd i rannau o'r Amgueddfa sydd wedi eu hamgylchynu.
- Defnyddio iaith anweddus.
- Ysmygu.
- Yfed diodydd meddwol y tu hwnt i'r mannau pwrpasol (e.e. bwytai a mannau picnic) neu ddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon.
- Bwyta neu yfed heblaw mewn caffis, bwytai a mannau a neilltuir ar gyfer bwyta pecynnau bwyd.
- Defnyddio ffôn boced yn yr orielau.
Os na ddilynir unrhyw un o'r uchod, mae'r Amgueddfa'n cadw'r hawl i wrthod mynediad a/neu hel y grŵp o'r safle.







