Polisi Amddiffyn Plant: Atodiad 5 - Cyfrifoldebau Arweinwyr/Athrawon wrth ymweld â'r Amgueddfa
Mae Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru am sicrhau bod plant yn cael eu hamddiffyn rhag niwed yn yr Amgueddfa. Yn ogystal â chyfrifoldebau'r Amgueddfa, rydym ni'n gofyn bod arweinwyr/athrawon grwpiau yn cyflawni eu dyletswyddau hwythau hefyd.
Yn benodol, dylai'r holl arweinwyr/athrawon:
- Sicrhau eu bod yn goruchwylio'r plant/pobl ifanc bob amser.
- Cysylltu ag aelod o staff yr amgueddfa yn achos damwain er mwyn sicrhau bod Trefn Argyfwng Staff AOCC yn cael ei gweithredu.
- Yn achos plentyn coll, cysylltu ag aelod o staff yr Amgueddfa a fydd yn dilyn y Drefn bwrpasol.
- Peidio â meddu ar, neu yfed diodydd meddwol, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon nac ysmygu ar eiddo'r Amgueddfa .
- Peidio â cham-drin unrhyw blentyn/person ifanc ar lafar nac yn gorfforol.
- Sicrhau yswiriant digonol ar gyfer y grŵp a'r arweinydd.
- Dweud wrth eu grŵp sut i ymddwyn yn Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.
- Dilyn Rhagofalon Tân AOCC.
Hoffem atgoffa arweinwyr/athrawon mai nhw sy'n gyfrifol am les y plant sydd yn eu gofal ar bob adeg.
Byddwn ni'n rhoi gwybod i'r arweinydd/athro cyfrifol am unrhyw bryderon (oni bai mewn achosion lle'r person hwn sy'n achosi'r pryder) ac yn mynd ar drywydd y mater gyda'r ysgol/sefydliad.
Byddwn ni'n cysylltu â'r ysgol/sefydliad yn uniongyrchol, ac efallai
â'r heddlu os ydyn ni'n pryderu am ymddygiad yr arweinydd/athro.