Polisi Amddiffyn Plant: Atodiad 4 - Y drefn i staff yr Amgueddfa ei dilyn yn achos plant coll
Os oes rhywun yn dweud wrthoch chi bod plentyn ar goll, rhowch wybod i'r staff Gwasanaethau Ymwelwyr a/neu'r Rheolwyr Diogelwch, Rheolwr y Safle neu'ch goruchwylydd (fel sy'n berthnasol ar eich safle chi) ar unwaith gan roi manylion llawn:
- Enw'r plentyn
- Oedran y plentyn
- Cyfeiriad/enw'r ysgol
- Disgrifiad corfforol o'r plentyn (taldra, lliw'r gwallt, dillad ac ati)
- Ble gwelwyd y plentyn ddiwethaf
- Pryd gwelwyd y plentyn ddiwethaf
Os nad yw'r plentyn yn dod i'r golwg ar ôl chwilio'n ddigonol, bydd y Goruchwylydd (Staff GY) yn dweud wrth y Rheolwyr Diogelwch neu rhywun tebyg i gysylltu â'r Heddlu.
Dylai'r aelod o staff sydd wedi derbyn y wybodaeth am y plentyn coll sicrhau'r rhiant/gwarcheidwad bod camau'n cael eu cymryd i ddod o hyd i'r plentyn ac esbonio y bydd aelod o staff ar ddyletswydd yn cadw mewn cysylltiad â nhw.
Bydd yr aelod o staff yn cadw mewn cysylltiad â'r rhiant/gwarcheidwad nes ffeindio'r plentyn dros y ffôn/radio neu wyneb yn wyneb.
Os oes plentyn coll yn dod atoch chi, dylech chi ddilyn y drefn hon:
Rhowch sicrwydd i'r plentyn a chysylltwch â'r staff GY a'r Rheolwyr Cysylltiedig
neu rhywun tebyg gyda'r manylion canlynol:
- Enw'r plentyn
- Oedran y plentyn
- Cyfeiriad/enw'r ysgol
- Disgrifiad corfforol o'r plentyn (taldra, lliw'r gwallt, dillad ac ati)
- Ble ffeindiwyd y plentyn
Os oes unrhyw un arall gyda'r plentyn, gofynnwch iddyn nhw aros gyda chi nes bod y rhiant/arweinydd yn dod.
Os ydych chi ar eich pen eich hun gyda'r plentyn, gwnewch yn siŵr eich bod chi mewn man cyhoeddus lle mae modd i bobl eich gweld a'ch clywed chi.
Os na ddaw neb i hawlio'r plentyn, bydd y Goruchwylydd GY neu Reolwr y Safle'n gyfrifol am gysylltu â'r heddlu lleol.
Dylech wneud pob ymdrech i dawelu meddwl a rhoi sicrwydd i blant coll wrth aros am yr oedolyn cyfrifol/heddlu.
Bydd y Goruchwylydd GY neu'r Rheolwr Safle yn cadw cofnod ysgrifenedig am blant coll, y staff perthnasol a'r drefn a ddilynwyd.
Byddai'n arfer da ofyn i'r plentyn neu'r person ifanc ddilysu pwy yw'r rhiant/gwarcheidwad.
Os bydd aelod o staff yn ffeindio plentyn yn crio, er y byddai'n briodol rhoi sicrwydd iddo/i ar lafar, dylai'r aelod o staff wneud yn siŵr bod y plentyn am gael help yn gyntaf.







