Teuluoedd
Mae gweithgareddau ymarferol ar gael i blant drwy gydol y flwyddyn yn Amgueddfa Wlân Cymru, yn cynnwys cribo â llaw a chardiau gwnio pwyth blanced.
Mae'r gweithgareddau rhyngweithiol yma yn cael eu cynnwys wrth i blant ddilyn llwybr y 'Stori Wlanog' o amgylch yr Amgueddfa sydd hefyd ar gael drwy gydol y flwyddyn.
Mae ein teithiau yn addas i'r teulu cyfan ac mae teuluoedd o bod oedran yn mwynhau gwylio ein peiriannau wrth eu gwaith.
Gall teuluoedd hefyd ddilyn taith ar eu liwt eu hunain drwy strydoedd cefn Dre-fach Felindre i weld lleoliadau nodedig y diwydiant gwlân. Nid yw'n addas defnyddio cadair wthio ar y teithiau yma.
Yn ystod gwyliau ysgol ceir rhaglen fwy cynhwysfawr o weithgareddau i'r teulu yn cynnwys cert celf lle gall plant ymgymryd â phob math o waith a gweithgareddau celf yn ogystal â gweithgareddau a theithiau i blant e.e. taith wyau yn ystod gwyliau'r Pasg. Cynhelir digwyddiadau penodol eraill yn yr Amgueddfa i gyd-fynd â gwyliau ysgol.
Digwyddiadau i'r Teulu
Digwyddiadau
Digwyddiadau
| Dyddiad | Digwyddiad | Manylion |
| Teithiau Tywys o gwmpas yr Amgueddfa | Pawb / Am ddim / Cysylltwch â'r Amgueddfa i weld pryd mae'r rhain yn rhedeg ac argaeledd | |
| Gor 1 2013–Tac 15 2015 | Y Stori Wlanog | Teuluoedd / Am ddim |
| 26 a 29 Hyd–2 Tach | Gweithgareddau Cert Celf yr Hanner Tymor | Teuluoedd / Am ddim |
| 25 Ion | Cert Calon i Ddathlu Diwrnod Santes Dwynwen | Teuluoedd / Am ddim |
| 15 Chwe | Cert Celf Dydd Sant Ffolant | Teuluoedd / Am ddim |
Cyfleusterau
- Cadeiriau uchel
- Ardal chwarae i blant yn y caffi
- Ardal bwyd babi gydag offer cynhesu llaeth a llestri babi
- Cyfleusterau newid babi
- Mae mynediad i bobl anabl i bob ardal o'r Amgueddfa
- Parcio am ddim
Siop yr Amgueddfa
Gellir prynu detholiad pwrpasol o deganau a chrefftau i blant yn ogystal ag ystod o lyfrau, sliperi a nwyddau gwlân i'r teulu cyfan yn ein siop. Mae dewis o flancedi babi gwlân hyfryd ar gael i'w prynu hefyd.






