Teuluoedd - St Fagans: National History Museum



Fel Amgueddfa sy’n cefnogi ‘Maniffesto Kids in Museums’ ac a enwebwyd yn un o ‘r lleoliadau rhad ac am ddim gorau i ymweld ag ef yn ne ddwyrain Cymru mewn pleidlais ar Netmums.com, mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn cynnig diwrnod o archwilio llawn hwyl i bobl o bob oed.
Saif yr Amgueddfa ar dir sy’n gymysgedd o feysydd agored prydferth a choetir hynafol, lle mae dros 40 o adeiladau wedi’u hailgodi yn cynnwys tai crwn o’r Oes Haearn, ffermdai ac ysgoldy i roi blas i chi o fywyd, gwaith a hamdden teuluoedd Cymru drwy’r oesoedd.
Cewch gyfle i gyfarfod crefftwyr cyfeillgar fel y Crydd Clocsiau a’r Gof a chael cyfle i ddysgu am wehyddu gwlân neu wneud blawd.
Mae ymwelwyr wrth eu bodd yn cyfarfod ag anifeiliaid yr Amgueddfa; gallwch weld gwartheg a defaid yn pori yn y caeau a hwyaid, ieir ac weithiau moch bach ar fferm Llwyn-yr-Eos.
Mae digonedd o le i redeg o gwmpas ac mae na faes chwarae arbennig i blant o 5 i 11 oed.
Wedi ichi fwynhau’r awyr iach, beth am fynd ar daith ar ein tractor ac ymweld â’n arddangosfeydd dan-do lle gallwch chi ddysgu mwy am fywyd teuluoedd Cymru a gwisgo dillad ffansi oes Fictoria.
Gellir prynu cinio i blant neu focs bwyd yn ein bwyty ac mae digonedd o lefydd i fwyta’ch picnic yn yr awyr agored.
Gofynnwch wrth y brif fynedfa am ein rhaglen lawn o ddigwyddiadau hwyliog sy’n cynnwys arddangosiadau coginio, ailgreadau a gweithgareddau celf a chrefft ymarferol.
Nodwch os gwelwch yn dda na allwn ni adael pramiau na chadeiriau gwthio plant i mewn i'r adeiladau hanesyddol.
Digwyddiadau i’r Teulu
Ni ddaethpwyd o hyd i unrhywbeth.
Bwyd a Diod
Mae Bwyty'r Fro ar lawr cynta'r amgueddfa'n gwerthu cinio cynnes ac oer; amrywiaeth o frechdanau baguettes a salad; cawl cartref; cacennau a diodydd poeth ac oer. Rydyn ni'n croesawu teuluoedd ac mae pecynnau cinio ar gael i blant, prif brydau i blant a phrydau arbennig i blant ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae Bwyty Bardi yn y Cyntedd yn gwerthu dewis o gacennau cartref a brechdanau, ynghyd â diodydd poeth ac oer.
Ystafell De draddodiadol o'r 1930au sydd i fyny'r llofft yn Siop Gwalia ac mae'n gwerthu cinio ysgafn a the'r prynhawn.
Gwerthir hufen iâ blasus Mary's Farmhouse, heb unrhyw ychwanegion ym Mwyty'r Fro, Bwyty Bardi ac o gwmpas y safle.
Mae cadeiriau uchel ar gael i fabanod.
Oriau Agor
Bwyty'r Fro
Bwyty'r Fro
Dydd Llun — Gwener: 11am—3pm Penwythnosau, Gwyliau Banc a Gwyliau Ysgol: 10am—3pm
Bwyty Bardi
10.30am—4.30pm
Ystafell De Gwalia
11am—4pm
Mae mannau chwarae i blant bach ac ardaloedd picnic.
Cyfleusterau newid cewyn.
Rhaid i blant dan 16 fod yng nghwmni oedolyn bob amser.
Partïon Plant
Beth am gynnal parti pen-blwydd eich plentyn yma yn Sain Ffagan? Mae digonedd o adloniant i ddiddanu'r plant am oriau — gyda dros 100 erw o diroedd a dau faes chwarae. Gallwn ni ofalu am y bwyd a'r diod gyda dewis o brydau oer a phoeth, pwdinau a diodydd.







