Paentio Ystumiol a Gweithredol - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Angel a Phobl (1978)
Mali Morris
Acrylig ar gynfas
© Mali Morris, prynwyd gyda chymorth y Gronfa Gelf ac Ymddiriedolaeth Derek Williams, 2009
Waeth i Ti Heb (2008)
Maurice Cockrill (1936-)
Cyfrwng cymysg ar gynfas
Ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Derek Williams
Yn fuan wedi’r Ail Ryfel Byd datblygodd math newydd o baentio haniaethol oedd yn rhoi’r pwyslais ar weithred neu ystum yr artist.
Ym 1952 dyma’r beirniad Harold Rosenberg yn crynhoi’r mudiad wrth ddweud:
‘Ar adeg benodol dechreuodd un paentiwr Americanaidd ar ôl y llall weld y gynfas fel arena i actio ynddi... nid llun oedd i ymddangos ar y gynfas ond digwyddiad.’
Arllwyswyd, diferwyd, staeniwyd a thaflwyd paent ar y gynfas i greu’r gwaith gorffenedig.
Roedd y paentiad yn gofnod o weithred yn ogystal ag yn ddatganiad o bwˆer mynegiant yr unigolyn.
Gallwn weld yn yr arddangosfa hon cymaint fu dylanwad rhychwant a hyder Mynegiadaeth Haniaethol America ar artistiaid yn gweithio ym Mhrydain.
Mae’r syniad y gall gweithred, digwyddiad neu broses lunio paentiad yn parhau’n bwysig i artistiaid sy’n gweithio heddiw.







