Pop a’r Cyffredin - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Bysiau (1964)
Allen Jones (1937-)
Acrylig ar liain cotwm
Prynwyd, 1977
Cymdogion
John Selway (1938-)
Cyfrwng cymysg ar fwrdd
Rhodd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, 2002
Gyda thwf celf Bop yn y 1950au a’r 1960au dechreuodd artistiaid gyfleu bywyd domestig modern mewn ffyrdd newydd.
Roedd celf Bop yn herio’r bwlch traddodiadol rhwng diwylliant ‘uwch’ ac ‘is’ tra’n dwyn ysbrydoliaeth o ddiwylliant poblogaidd comics, teledu a ffilmiau, cerddoriaeth bop a hysbysebu.
Roedd bywyd bob dydd bellach yn destun ac yn ddeunydd i’r artist.
Trodd nifer o artistiaid Prydain at ddiwylliant poblogaidd Americanaidd a’i hyder a’i ddylanwad cynyddol.
I wlad a welodd dlodi a dogni wedi’r rhyfel, roedd sêr Hollywood a nwyddau wedi’u masgynhyrchu yn atyniadau mawr.
Yng Nghymru, defnyddiodd nifer o artistiaid gelf Bop i adlewyrchu eu byd.
Gydag economi ddiwydiannol de Cymru yn prysur ddirywio, roedd defnyddio Pop i gyfleu tai teras traddodiadol y cymoedd, er enghraifft, yn hynod deimladwy.







