Bywyd Llonydd a Haniaeth - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
[delwedd: Bywyd llonydd gyda rhodlong a phier (1932) John Piper (1903-1992)]
Bywyd llonydd gyda rhodlong a phier (1932)
John Piper (1903-1992)
Pensil, dyfrlliw a gouache ar bapur
Ar fenthyg gan Ymddiriedolaeth Derek Williams
[delwedd: Paul Cézanne, Paul. Bywyd Llonydd â Thebot.]
Bywyd Llonydd â Thebot, 1902-06
Paul Cézanne, (1839-1906)
Olew ar gynfas
Edrych ar y cyswllt rhwng bywyd llonydd a haniaeth yng nghelf fodern yr ugeinfed ganrif wna'r gweithiau yn yr oriel hon.
Bywyd llonydd – trefnu gwrthrychau bob dydd ar fwrdd – oedd testun nifer o ddatblygiadau mwyaf radical dechrau'r ugeinfed ganrif.
Defnyddiwyd bywyd llonydd gan fudiadau fel Ciwbiaeth i ddatblygu iaith weledol fyddai'n arwain yn y pen draw at haniaeth bur.
Paentiadau Paul Cézanne a fraenarodd y tir ar gyfer y datblygiadau yma.
Dangosodd ei waith nad oedd yn rhaid i baentiad bellach adlewyrchu'r byd gweladwy.
Cafwyd cydnabyddiaeth bellach bod gan ffurf a lliwiau llun y grym i ennyn ymateb emosiynol, waeth beth a gynrychiolir ganddynt.
Roedd artistiaid eraill yn parhau i ymdrin â bywyd llonydd mewn dulliau traddodiadol, ond gwelwn bod nodweddion haniaethol y gwrthrychau ar y bwrdd yn bwysicach nag unrhyw ystyr symbolaidd traddodiadol, hyd yn oed ym mhaentiadau tawel, diamser Giorgio Morandi.