Polisi Amddiffyn Plant: Atodiad 1 - Ein haddewid i blant
Mae pawb yma yn Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i sicrhau eich bod chi'n mwynhau gymaint â phosibl wrth ymweld â ni. Rydyn ni i gyd yn credu bod gennych chi'n hawl i deimlo'n ddiogel ac yn gyffyrddus tra'ch bod chi yma. Felly fe wnawn ni'n gorau i gyflawni'r addewidion rydyn ni'n eu gwneud i chi.
Rydyn ni'n addo:
- Rhoi croeso i chi
- Rhoi ystyriaeth i'ch anghenion chi bob tro
- Trin pob plentyn a pherson ifanc yn deg
- Gwneud yn siŵr bod ein holl staff a gwirfoddolwyr yn gwybod beth maen nhw i fod i'w wneud
- Sicrhau bod ein gweithgareddau a'ch ymweliad chi mor ddiogel â phosibl
- Gwrando ar beth sydd gennych i'w ddweud
- Gwneud ein gorau i wneud yn siŵr eich bod chi'n cael hwyl.







