
Yr hyn rydym yn gobeithio’i gyflawni
Ymestyn y llinell amser
Mae Sain Ffagan yn canolbwyntio ar hanes pobl Cymru dros y 500 mlynedd diwethaf ar hyn o bryd. Byddwn yn symud y casgliad archaeoleg cenedlaethol o’i gartref presennol yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd i Sain Ffagan. Mi fydd hyn yn ein galluogi ni i gyflwyno straeon y bobl gyntaf i fyw yng Nghymru 250,000 o flynyddoedd yn ôl a gosod stori Cymru a’i phobl yn ei chyd-destun yn nhermau hanes y byd.
Creu atyniad at bob tywydd
Yn ogystal â gwella’r profiad awyr agored yn Sain Ffagan byddwn yn datblygu’r ddarpariaeth dan do. Bydd yr orielau yn y prif adeilad yn cael eu hailwampio’n llwyr er mwyn creu mannau dysgu ac arddangos newydd a hyblyg, a bydd adeilad newydd sbon yn cael ei godi yn y coedwigoedd er mwyn i ymwelwyr gael profi hanes Cymru a’i thrysorau cenedlaethol.
Digwyddiadau
Bydd mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau i adlewyrchu’r llinell amser newydd gyda mwy o bwyslais ar roi cyfle i ymwelwyr gymryd rhan. Bydd cyfleoedd i brofi archaeoleg yn yr awyr agored ac rydyn ni'n awyddus hefyd i gynnig mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr yn ogystal â chydweithio’n agos â grwpiau cymunedol.
Cynnig ffyrdd newydd i ddeall hanes Cymru
Drwy awgrymu llwybrau gwahanol o gwmpas Sain Ffagan a diweddaru’r deunyddiau dehongli o gwmpas y safle, byddwn yn ei gwneud hi’n haws i ddarganfod mwy am agweddau penodol ar hanes Cymru a chynllunio ymweliad yn ôl gofynion amser a diddordeb.
Mwynhewch
Mae ein ymwelwyr yn ganolog i’r project hwn ac rydym am ddatblygu’r cyfleusterau er mwyn cynnig y profiad gorau posib. Bydd ardaloedd diogel i’n hymwelwyr ieuengaf allu dysgu wrth chwarae a llefydd bwyd a diod newydd. Bydd y gwelliannau dan do yn sicrhau bod Sain Ffagan yn amgueddfa i’w mwynhau gydol y flwyddyn, waeth beth fo’r tywydd.
O Fudd i Gymru
Gyda 600,000 yn ymweld pob blwyddyn, Sain Ffagan yw'r ail amgueddfa awyr-agored fwyaf poblogaidd yn Ewrop. Mae wedi dod yn gartref i hanes Cymru — yn ganolog i'r hunaniaeth Gymreig ac yn fangre arbennig ble mae pobl Cymru a thu hwnt yn dod ar bererindod er mwyn dysgu am stori Cymru.
Bydd y buddsoddi yn Sain Ffagan dros y 10 mlynedd nesaf yn adlewyrchu newid a chyfeiriad newydd cyffrous. Bydd yn adnewyddu statws Sain Ffagan fel atyniad sydd yn rhaid i ymwelwyr i Gymru ymweld ag ef - elfen hanfodol o dwristiaeth dreftadaeth yng Nghymru sydd o fudd i Gymru gyfan.
Yn ogystal â chael cefnogaeth y Llywodraeth, bydd y buddsoddiad cyffrous yma yn edrych am gefnogaeth ariannol y gymuned fusnes, cyrff dyfarnu grantiau ac unigolion sydd am gefnogi Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.








