Amgueddfa Gelf Genedlaethol
Wales's National Museum of Art

Llwyfan newydd i gelf yng Nghymru
Nawr mae gan Gymru ei Hamgueddfa Gelf Genedlaethol ei hun fydd yn arddangos ystod lawn ein casgliad celf cenedlaethol o safon ryngwladol mewn un lle, yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Am y tro cyntaf, mae casgliad Amgueddfa Cymru o gelf cain a chymwysedig — o'r hanesyddol i'r cyfoes — yn cael ei ddangos mewn un gyfres o orielau integredig, gan roi llwyfan newydd i gelf Cymreig yng Nghymru.
Caiff ymwelwyr fwynhau hanes traddodiad gweledol unigryw Cymru, a'i le yng nghyd-destun ehangach Prydain a gweddill y byd.

Gellir dilyn y trywydd drwy waith o'r cyfnod Tuduraidd hyd heddiw; paentiadau heb eu hail gan Hen Feistri Ewrop o'r unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg; campweithiau Argraffiadaeth ac Ôl-argraffiadaeth o gymynrodd Gwendoline a Margaret Davies i'r genedl, sef eu casgliad celf Ffrengig o safon fyd-eang; arian a cerameg o Gymru a'r byd a chasgliad cyfoes sy'n ysbrydoledig.
Yr Adain Orllewinol — chwe oriel gelf gyfoes arbennig newydd — fydd y gofod mwyaf o'i fath yng Nghymru. Cyn nawr, un oriel oedd gan yr Amgueddfa i arddangos ei hystod o gelf modern a chyfoes, sy'n un o gasgliadau pwysicaf y DU.
Mae'r datblygiad hwn yn rhoi i'r Amgueddfa bron i 800 metr sgwâr o ofod i arddangos yr ystod aruthrol a chryf o gelf a gynhyrchwyd yng Nghymru ers cyn y 1950au, a pherthynas y gwaith yma i ddatblygiadau rhyngwladol.
Roedd yr arddangosiad agoriadol ym mis Gorffennaf 2011 — 'Ni allaf ddianc rhag hon' — yn cynnwys gwaith gan artistiaid a chanddynt gysylltiad â Chymru, fel Josef Herman a Shani Rhys James, ochr yn ochr ag artistiaid blaenllaw Prydeinig a rhyngwladol gan gynnwys Lucian Freud, David Hockney a Rachel Whiteread.
Fel rhan o'r arddangosfa yn yr orielau celf fodern a chyfoes newydd, gosodwyd Unlliw gan Carwyn Evans fel ymyriad yn yr Oriel Tirluniau yn yr adain sy'n arddangos Celf Hanesyddol.
© Yr Artist
Mae Michael Tooby, Cyfarwyddwr Dysgu, Rhaglennu a Datblygu Amgueddfa Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn y broses o greu'r Amgueddfa Gelf Genedlaethol sydd wedi costio cyfanswm o £6.5m. Meddai ef:
“Bydd yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn apelio at bob carfan o ymwelwyr â'r Amgueddfa, ac mae'n gam enfawr ymlaen yn y ffordd rydym ni, Amgueddfa Cymru, yn arddangos ac yn dehongli'n casgliadau. Bydd y project hwn o ailadeiladu ac ailarddangos hefyd yn cael ei gyflwyno fel un arddangosiad integredig am y tro cyntaf, gan adlewyrchu'r ffordd y mae'n gweddnewid ymwybyddiaeth o'r celfyddydau gweledol yng Nghymru.”
Mae David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru yn ystyried yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol yn un o brojectau allweddol yr Amgueddfa:
“Mae casgliad y wlad o weithiau gan artistiaid Cymreig a rhyngwladol yn aruthrol. Am y tro cyntaf erioed, bydd gan y genedl orielau o safon ryngwladol sy'n adrodd hanes unigryw celf yng Nghymru a sut yr esblygodd y wlad.
Ein nod yw ysbrydoli creadigrwydd cenedlaethau'r dyfodol, ac mae'r orielau hyn yn rhan hanfodol o'r strategaeth hon."
Mae Amgueddfa Cymru hefyd yn dal at ei huchelgais hirdymor o greu Oriel Gelf Genedlaethol. Mae'r strategaeth, sydd hefyd yn cynnwys datblygu Amgueddfa Genedlaethol Hanes Natur newydd, yn rhan o uwchgynllun hirdymor safle'r Amgueddfa Genedlaethol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Amgueddfa Cymru yn gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru a chymorth noddwyr canlynol yr Amgueddfa Gelf Genedlaethol: Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn, Ymddiriedolaeth Derek Williams, Sefydliad Garfield Weston, Sefydliad Henry Moore, Sefydliad Wolfson, Sefydliad Foyle a llawer o roddion hael gan Ymddiriedolaethau llai ac unigolion.







