Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Creu Hanes: Cymryd Rhan!

[delwedd: Consultation]

[delwedd: Talk in the Celtic Village]

[delwedd: Planning]

[delwedd: Family Event]

Croeso i dudalennau ymgynghori Creu Hanes. Yma gallwch chi:

  • Dysgu sut i gymryd rhan yn ein rhaglen ymgynghori
  • Dweud eich dweud ac anfon eich sylwadau aton ni

Mae eich barn yn bwysig — felly ymunwch â ni i wneud gwahaniaeth!

Newyddion

Mae'r Amgueddfa wedi bod yn llwyddiannus yng nghymal cyntaf proses nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL). Bydd y project nawr yn datblygu mewn dau gam. Bydd y cais terfynol yn cael ei gyflwyno i CDL yn nechrau 2012, ac os bydd yr Amgueddfa yn llwyddiannus, bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn 2013 gan obeithio cwblhau'r gwaith yn 2017. Mae'r amseroedd yma fodd bynnag yn dibynnu ar argaeledd ac amseriad nawdd.

Rydyn ni wrthi'n meddwl ar hyn o bryd beth ddylen ni ei arddangos yn ein horielau newydd. Rydyn ni wedi apwyntio tîm dylunio o benseiri, peirianwyr a chynllunwyr arddangosfeydd sy'n edrych ar opsiynau i wella'r safle.

Dweud eich dweud

Ysgrifenwch aton ni:

Swyddfa Broject Creu Hanes: Ymateb ymholiad
Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Caerdydd
CF5 6XB

Neu llenwch gerdyn sylwadau yn unrhyw un o'n hamgueddfeydd.

Bydd yr ymatebion ymholiad yn cael eu casglu a'u hystyried yn ofalus gan staff Amgueddfa Cymru. Byddwn yn ystyried eich barn wrth ddatblygu'n cynlluniau ar gyfer y safle a bydd eich ymatebion yn cyfrannu tuag at y cais terfynol i Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Gwneud Sain Ffagan yn berthnasol i chi!

  • Gallwn gynnig cyfleoedd i unigolion, grwpiau neu sefydliadau i weithio gyda'r Amgueddfa i ddatblygu hanesion Cymru sy'n ‘canolbwyntio ar bobl'
  • Helpwch ni i sicrhau bod y straeon rydyn ni'n eu hadrodd yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru yn ddiddorol ac yn berthnasol i gymunedau sy'n byw yng Nghymru heddiw
  • Creu cysylltiadau/partneriaethau gwaith cryfach â chymunedau lleol yng Nghymru.
  • Cymrwch ran mewn lleoliadau gwirfoddol yn yr Amgueddfa. Dewch i ddysgu sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd a chael llawer o hwyl.
  • Mae Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru eich hangen chi! Dewch i gael hwyl drwy gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau newydd cyffrous i ddatblygu cynnwys eich amgueddfa CHI.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.