Môr-ladron Cymru – Cyfnod Allweddol 2 - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
3 sesiwn.
Lle ar gyfer:
2 grŵp, hyd at 35 o ddisgyblion ym mhob un.
Addas ar gyfer:
Cyfnod Allweddol 2.
Nod:
Dysgu mwy am hanes un o gymeriadau hanesyddol ein gwlad – y môr-leidr drwg-enwog Bartholomew Roberts. Bydd y plant yn dysgu mai Barti Ddu oedd un o’r môr-ladron mwyaf llwyddiannus ac anghyffredin a hwyliodd erioed.
Sesiwn gydag actor:
Mewn sesiwn a hwylusir, bydd y plant yn cwrdd ag actor sy’n chwarae rhan Barti Ddu. Byddant yn clywed rhai o’r straeon cyffrous am Gymry a oedd yn hwylio’r moroedd mawr yn ystod oes aur môr-ladron, ac yn dysgu am fasnach a rhai o lwybrau masnach Barti Ddu. Hefyd, byddant yn dysgu am rai o nodweddion rhyfedd cymeriad Barti Ddu a’i god hynod.
Llwybr Trysorau:
Mewn sesiwn dan arweiniad athro, bydd y dosbarth yn rhannu’n grwpiau (pob un dan arweiniad oedolyn. Byddant yn cwblhau llwybr sy’n ymwneud ag arian, ceiniogau a gwrthrychau aur ac arian o Gymru, sydd i’w gweld yng nghasys arddangos yr Amgueddfa.
Cist Drysor:
Mewn sesiwn dan arweiniad athro, bydd y plant yn cael cyfle i wneud pob math o weithgareddau llythrennedd yn ymwneud â môr-ladron a’r môr.
Yn berthnasol ar gyfer:
Hanes, Saesneg a’r Fframwaith Sgiliau.









