Môr-ladron Cymru — Y Cyfnod Sylfaen - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Hyd:
3 gweithgaredd.
Lle ar gyfer:
3 grŵp, gyda hyd at 30 o ddisgyblion ym mhob un.
Addas ar gyfer:
Dosbarth derbyn — blwyddyn 2.
Nod:
Dysgu mwy am hanes un o gymeriadau hanesyddol ein gwlad – y môr-leidr drwg-enwog Bartholomew Roberts. Bydd y plant yn clywed mai Barti Ddu oedd un o'r môr-ladron mwyaf llwyddiannus ac anghyffredin a fu'n hwylio erioed.
Sesiwn gydag actor:
Mewn sesiwn a hwylusir, bydd y plant yn cwrdd ag actor sy'n chwarae rhan Barti Ddu. Byddant yn clywed rhai o'r straeon cyffrous am Gymry a oedd yn hwylio'r moroedd mawr yn ystod oes aur y môr-ladron. Hefyd, byddant yn dysgu am rai o nodweddion rhyfedd cymeriad Barti Ddu a'i god hynod.
Llwybr Trysorau:
Mewn sesiwn dan arweiniad athro, bydd y dosbarth yn rhannu'n grwpiau (pob un dan arweiniad oedolyn). Byddant yn cwblhau llwybr sy'n ymwneud ag arian, ceiniogau a gwrthrychau aur ac arian o Gymru, sydd i'w gweld yng nghasys arddangos yr Amgueddfa.
Cist Drysor:
Mewn sesiwn dan arweiniad athro, bydd y plant yn cael cyfle i wneud pob math o weithgareddau ymarferol ar thema môr-ladron.
Canlyniadau bwriedig:
- Datblygu sgiliau arsylwi wrth edrych yn ofalus ar eitemau ac arddangosfeydd.
- Datblygu sgiliau gwrando.
- Meithrin dealltwriaeth o sut oedd pobl yn byw ers talwm.









