Bwyd y môr Addysg: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Hyd:

3 gweithgaredd.

Lle ar gyfer:

3 grŵp, hyd at 30 o ddisgyblion ym mhob un.

Addas ar gyfer:

Plant meithrin – blwyddyn 2.

Nod:

Nod gweithgareddau’r bore yw rhoi cyfle i blant ddysgu am y diwydiant pysgota yng Nghymru, ddoe a heddiw.

Cocos a chregyn gleision:

Mewn sesiwn a hwylusir, bydd y plant yn cwrdd ag actores sy’n chwarae rhan casglwr cocos Cymreig. Byddant yn dysgu am draddodiadau ac arferion casglu cocos yn ardal Bae Abertawe, a hefyd hanes y diwydiant cregyn gleision yn y Gogledd. Bydd cyfle i rai o’r plant wisgo fel gweithwyr pysgod, gan gymryd eu hysbrydoliaeth o hen luniau.

Blychau archwilio:

Mewn sesiwn dan arweiniad athro, bydd y dosbarth yn rhannu’n grwpiau i drafod cynnwys a gweithgareddau’r blwch Bwyd y môr. Anogir plant i feithrin sgiliau iaith a sylwi trwy ofyn ac ateb cwestiynau. Rhaid i oedolyn o’r ysgol fod yn gyfrifol am bob grŵp a blwch. Bydd canllawiau ar gael i’r oedolion ar gyfer pob gweithgaredd, sy’n cynnwys rhestr o gwestiynau, esboniadau a gwybodaeth berthnasol arall.

Llwybr y môr:

Mewn sesiwn dan arweiniad athro, bydd y dosbarth yn rhannu’n grwpiau (gydag oedolyn yn gyfrifol am bob un) i gwblhau’r llwybr. Anogir plant i feithrin sgiliau iaith a sylwi, wrth iddyn nhw chwilio am eitemau gwahanol o amgylch yr Amgueddfa.

Bydd cyfres o gardiau wedi’u lamineiddio ar hyd y llwybr, yn dangos yr eitemau mae’n rhaid i’r plant eu darganfod. Ar ôl ffeindio’r eitem, bydd yr oedolyn yn darllen gwybodaeth amdani i’r plant. Wedyn, byddant yn nodi beth yw’r cysylltiad rhwng yr eitem â’r môr.

Amser rhydd:

Efallai yr hoffai athrawon fynd â’r plant am dro i’r ardal leol – gallwch gerdded i draeth Abertawe a marchnad y ddinas a’i stondinau pysgod.

Canlyniadau bwriedig:

  • Datblygu sgiliau arsylwi wrth edrych yn ofalus ar eitemau ac arddangosfeydd.
  • Datblygu sgiliau iaith wrth ofyn ac ateb cwestiynau am eitemau ac am y gorffennol.
  • Meithrin dealltwriaeth o sut mae’r môr wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru.
  • Meithrin dealltwriaeth o fwyta’n iach.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.