Rydych chi yn: Hafan > Digwyddiadau > Gŵyl y Gelli
Gŵyl y Gelli
Credit: Finn Beales
Gŵyl y Gelli
Credit: Finn Beales
Gŵyl y Gelli
Credit: Jeff Morgan

Amgueddfa Cymru yng Ngŵyl y Gelli

Ymunwch â ni yng Ngŵyl Lenyddol y Gelli Gandryll o 31 Mai i 10 Mehefin.

Bydd Amgueddfa Cymru yn rhan o stondin Hanes Cymru — History Wales ynghyd â Cadw, CBHC, Cymdeithas y Tai Hanesyddol ac Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru..

Bydd ein Cyfarwyddwr Cyffredinol David Anderson yn cymryd rhan yn sgwrs The Story of Wales ar ddydd Llun 4 Mehefin am 10am yn y Sky Art Studio.

Jon Gower yn siarad â Mary-Anne Constantine, Phil George a David Anderson

Digwyddiad 148 • dydd Llun 4 Mehefin 2012 10am • Lleoliad: Sky Arts Studio

Sut ffurfiodd y tir y genedl a sut y cysylltodd y wlad â’r byd.

Bydd Jon Gower yn cadeirio trafodaeth yn cwmpasu 30,000 o flynyddoedd gyda hanesydd, cynhyrchydd rhaglenni teledi a Chyfarwyddwr Amgueddfa Cymru.

Jon Gower chairs a discussion spanning 30,000 years with an historian, a TV programme maker and the Director of The National Museum of Wales.

I brynu tocynnau, ewch i www.hayfestival.com.

Yn ogystal â dysgu rhagor am saith amgueddfa genedlaethol Cymru a phori drwy’n detholiad o lyfrau ar werth ar stondin Hanes Cymru – History Wales, bydd amrywiaeth o weithgareddau i blant, o rwymo llyfrau a gwneud bathodynnau i greu graffiti ar ddarnau llechen i ddathlu pen-blwydd Amgueddfa Lechi Cymru yn 40 oed eleni.

Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi yng Ngŵyl y Gelli!!


  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.