[delwedd: Gerddi Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan]
Y GERDDI FFURFIOL > >
[delwedd: Gerddi'r Castell]
Gerddi'r Castell
Mae Castell Sain Ffagan a'i erddi ym mhen dwyreiniol yr Amgueddfa. Mae'r 7 hectar o erddi ffurfiol a lled-ffurfiol yn dangos y math o erddi fyddai'n datblygu o gwmpas tai bonedd ddiwedd y bedwaredd ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif.
I gyrraedd y gerddi ffurfiol, rhaid cerdd drwy'r goedfa led-ffurfiol ac ar hyd y rhodfa o goed pinwydd tua therasau cain y castell ei hun. Nodweddion gwreiddiol yw nifer o'r rhain. Pwrpas gwreiddiol y llynnoedd pysgod sy'n gorwedd islaw teras y castell oedd magu pysgod ar gyfer y bwrdd bwyd, ac rydyn ni'n credu bod y rhain wedi cael eu creu yn yr oesoedd canol. Ymhellach i fyny'r nant mae'r Ardd Ddŵr gafodd ei dylunio a'i hadeiladu gan y dylunydd enwog o Oes Fictoria, James Pulham. Cafodd y terasau ffurfiol eu hunain eu cwblhau ym 1871, ac maen nhw'n cynnwys yrnau haearn bwrw ar golofnresi carreg sy'n edrych allan dros ddellt rhosod, gyda mathau arbennig o goed, fel y ffawydden redynddail wych.
[delwedd: Patrerre]
Y Patrerre
Wrth ymyl y castell mae cynllun mwy ffurfiol y parterre, lle mae'r gwahanol rhannau wedi eu rhannu gan lwyni bocs isel gyda ffynnon yn y canol. Chwarter gardd hirsgwar mwy yw'r parterre. Mae gweddill yr ardd yn cynnwys llain fowlio, gardd teim a gardd gwlwm, sy'n dangos sut câi gerddi eu rhannu cyn i erddi mwy anffurfiol ddod yn ffasiwn.
[delwedd: Rhosyn Ulrich Bremmer]
Mae'r Ardd Rosod wedi cael ei hail-greu fel roedd hi'n wreiddiol ym 1899. Seiliwyd y gwaith ar ffotograffau o'r castell a'r gerddi ffurfiol rhwng 1890 a 1915, ynghyd â'r plan gwreiddiol a'r rhestr wreiddiol gyflawn o'r rhosod. Yr Ardd Rosod yw un o'r rannau mwyaf persawrus o'r gerddi ffurfiol, ac mae'n cyfuno rhosod Te, Bythol Cymysgryw a The Cymysgryw yn y gwelyau a'r dellt. Yn y canol mae deildy llawryf wedi ei amgylchynu gan gamlas gylchol.
[delwedd: Yr Ardd Eidalaidd]
Yr Ardd Eidalaidd
Mae un o'r projectau diweddaraf - yr Ardd Eidalaidd - y tu ôl i furiau carreg uchel ger y Castell. Gardd breifat iawn oedd hon yn wreiddiol. Mae iddi siâp hirsgwar syml sy'n cynnwys grisiau a therasau glaswellt. I ategu ei naws Eidalaidd mae orenwydd, borderi lliwgar a ffynnon araul.
[delwedd: Wisteria]