Datganiad Amgylcheddol 2011
Environmental-statement.cy.pdfMae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru: Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, a'r Ganolfan Gasgliadau yn Nantgarw, gyda'r prif nod o gynyddu addysg y cyhoedd.
Mae'r Amgueddfa yn cyflogi tua 650 o staff, ac yn denu tua 1.6 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol ledled bob safle. Mae'r safleoedd yn amrywiol o ran swyddogaeth a natur, yn amgueddfeydd awyr agored, orielau a chyfleusterau ymchwil.
Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad sy'n cwmpasu ymchwil ar faterion amgylcheddol, mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi mabwysiadu arferion cynaliadwy, wedi ymrwymo at leihau ei heffaith ar yr amgylchedd, ac wedi ymrwymo at hyrwyddo cynaladwyedd fel rhan o'i rhaglen addysg.
I gyflawni hyn, mae Amgueddfa Cymru wedi mabwysiadu system rheolaeth amgylcheddol, a gyflawnwyd drwy System Safonau Amgylcheddol Draig Werdd Rhwydwaith Arena.
Agweddau Amgylcheddol
1. Hyfforddiant Amgylcheddol
Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth staff o faterion amgylcheddol drwy hyfforddiant mewnol, a thrwy rannu adnoddau, megis rhai sy'n cael eu darparu gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.
2. Gwelliant Parhaus
Sefydlwyd Fforwm Datblygiad Cynaliadwy i ysgogi datblygiad polisïau ac arferion datblygiad cynaliadwy, gan wneud argymhellion priodol i'r Gweithgor Cynaladwyedd.
3. Caffaeliad Cynaliadwy
Mabwysiadwyd Polisi a Chynllun Gweithredu Caffaeliad Datblygiad Cynaliadwy fel ymrwymiad at gaffaeliad cynaliadwy. Mae hyn yn edrych ar gostau ac effaith gydol oes nwyddau a gwasanaethau, ac yn gwerthuso perfformiad amgylcheddol ein cyflenwyr a chontractwyr.
4. Gwastraff
Rydym yn annog lleihau gwastraff drwy gynyddu ailgylchu, hyrwyddo ail ddefnydd a chwtogi ledled bob safle.
5. Ynni a Dŵr
Mabwysiadwyd Polisi Ynni fel cam sylweddol tuag at effeithiolrwydd ynni, ac i ddangos cefnogaeth yr Amgueddfa tuag at ostwng gollyngiadau nwyon tŷ gwydr. Drwy reoli ynni, a gweithredu systemau ar gyfer monitro a thargedu defnydd, mae Amgueddfa Cymru yn ceisio lleihau defnydd ynni a dŵr. Mae hefyd yn ymchwilio i ffynonellau arian grant a all fod ar gael ar gyfer mentrau arbed ynni a gwella strwythur.
6. Atal Llygredd
Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio lleihau ac osgoi rhyddhad a gollyngiad llygryddion a all achosi niwed amgylcheddol i'r awyr, tir neu ddŵr, a lleihau a diddymu llygredd sŵn lle bo'n ymarferol.
7. Trafnidiaeth
Mae Amgueddfa Cymru yn hyrwyddo ac yn annog y defnydd o drafnidiaeth amgylcheddol gyfeillgar yn ystod oriau gwaith, gan gynnwys rhannu ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi dulliau sy'n lleihau'r angen i staff deithio rhwng safleoedd (e.e. defnydd priodol o fideo-gynadledda).
8. Bioamrywiaeth
Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio amddiffyn, cadw, gwella ac adfer fflora a ffawna naturiol amrywiol bob safle.
9. Addysg
Mae Amgueddfa Cymru yn ymdrechu i annog datblygiad cynaliadwy drwy gynnwys materion datblygiad cynaliadwy yn ein dehongliad o bob pwnc, ac i ymgymryd ag ymchwil sy'n cyfrannu at ddealltwriaeth bioamrywiaeth yn rhanbarthol a byd-eang.
10. Amcanion a Thargedau
Cyfrifwyd bod defnydd ynni a thrafnidiaeth Amgueddfa Cymru yn cynhyrchu 5,406,959kg o CO2, ar sail defnydd yn 2010. Ein targed yw gostwng hyn gan 2% y flwyddyn.
11. Perfformiad yn 2010
Yn ystod 2010 gofynnodd Amgueddfa Cymru i Groundwork Walesa ddarparu cefnogaeth ymgynghorol gyda'r nod o gyrraedd Lefel 3 Draig Werdd. Hefyd cychwynnodd Amgueddfa Cymru ar berthynas ffurfiol gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon, a edrychodd ar bob safle gan gynhyrchu cynllun gweithredu i dargedu mesurau lleihau ar gyfer ynni a dŵr. Mae'r gwaith hwn bellach yn cael ei weithredu.
Cyfarfu'r Fforwm Cynaladwyedd drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n parhau i oruchwylio projectau Amgueddfa Cymru o ran pob mater amgylcheddol.
Polisi Amgylcheddol
Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith amgueddfa unigol ledled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Wlân Cymru, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; mae hefyd Canolfan Gasgliadau yn Nantgarw. Mae mynediad am ddim i'r amgueddfeydd, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y weledigaeth yw creu amgueddfa ddysg o safon fyd-eang.
Mae Amgueddfa Cymru yn ymwybodol bod ei gweithgareddau yn effeithio ar yr amgylchedd, ac yn ceisio lleihau effaith o'r fath lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl. Er bod Amgueddfa Cymru eisoes yn mabwysiadu arferion amgylcheddol da, gwelir hyn fel sylfaen ar gyfer datblygu gwelliant amgylcheddol parhaus. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:
- Cynnal Adolygiad Amgylcheddol o leiaf unwaith y flwyddyn er mwyn ystyried unrhyw newidiadau posibl yn y cyfnod hwnnw, a fydd yn bwydo i'n Datganiad Rheolaeth Amgylcheddol.
- Gosod amcanion a thargedau clir a gwiriadwy ar gyfer lleihau ein heffaith amgylcheddol sylweddol, sef defnydd ynni ac adnoddau.
- Datblygu Cynllun Gweithredol ar gyfer cyflawni amcanion a thargedau o'r fath.
- Dosbarthu arfer da amgylcheddol ledled y sefydliad, wedi'i hwyluso gan arbenigedd staff mewnol.
- Cynhyrchu Cynllun Atal Llygredd er mwyn hwyluso ein hymrwymiad at atal llygredd.
- Cynhyrchu Cofrestr Deddfwriaeth Amgylcheddol a gweithdrefnau ategol er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth gyda'n hymrwymiad parhaus i gydymffurfio gyda deddfwriaeth, rheoliadau a gofynion eraill perthnasol i'r Amgueddfa.
- Sicrhau bod monitro amgylcheddol yn digwydd er mwyn asesu cynnydd yn erbyn amcanion a thargedau, ac ysgogi gwelliant parhaus.
- Cyhoeddi Datganiad Amgylcheddol cyhoeddus blynyddol i gynnwys ein blaenoriaethau cyfredol ac ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â pherfformiad amgylcheddol yn y gorffennol.
- Sicrhau bod sianeli cyfathrebu effeithiol ledled yr holl sefydliad, gan gynnwys pobl sy'n gweithio ar ran y sefydliad.
- Adolygu'r holl Ddatganiad Rheolaeth Amgylcheddol yn rheolaidd a chymryd camau i'w gywiro lle bo angen.
Mae'r Polisi hwn yn gweithredu fel dogfen lywodraethol ar gyfer gosod gwelliannau a bydd yn ystyried barn staff a phartïon â diddordeb. Bydd yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn, a'i adolygu lle bo angen.
[delwedd: ]
2 sylw
James ar 10 Rhagfyr 2012, 20:29
What are the capacities (in kilowatts or megawatts) of the solar systems on the Big Pit and National Collection Centre? Are they 50 kilowatts each, as I've estimated? The figure of 5kV above isn't really clear!
Would appreciate some feedback on this!
Thanks.
Jenny Schofield ar 21 Mai 2012, 22:05
Is there a Museum of Sustainable Transport anywhere in the world?
Gadael sylw