Rydych chi yn: Hafan > Amdanom ni > Cynaliadwyedd > Datganiad Amgylcheddol 2011
English

Datganiad Amgylcheddol 2011


Environmental-statement.cy.pdf
Datganiad Amgylcheddol 2011

Mae Amgueddfa Cymru yn deulu o saith amgueddfa genedlaethol ledled Cymru: Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe; Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion a Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd, a'r Ganolfan Gasgliadau yn Nantgarw, gyda'r prif nod o gynyddu addysg y cyhoedd.

Mae'r Amgueddfa yn cyflogi tua 650 o staff, ac yn denu tua 1.6 miliwn o ymwelwyr yn flynyddol ledled bob safle. Mae'r safleoedd yn amrywiol o ran swyddogaeth a natur, yn amgueddfeydd awyr agored, orielau a chyfleusterau ymchwil.

Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth y Cynulliad sy'n cwmpasu ymchwil ar faterion amgylcheddol, mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi mabwysiadu arferion cynaliadwy, wedi ymrwymo at leihau ei heffaith ar yr amgylchedd, ac wedi ymrwymo at hyrwyddo cynaladwyedd fel rhan o'i rhaglen addysg.

I gyflawni hyn, mae Amgueddfa Cymru wedi mabwysiadu system rheolaeth amgylcheddol, a gyflawnwyd drwy System Safonau Amgylcheddol Draig Werdd Rhwydwaith Arena.

Agweddau Amgylcheddol

1. Hyfforddiant Amgylcheddol

Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth staff o faterion amgylcheddol drwy hyfforddiant mewnol, a thrwy rannu adnoddau, megis rhai sy'n cael eu darparu gan yr Ymddiriedolaeth Garbon.

2. Gwelliant Parhaus

Sefydlwyd Fforwm Datblygiad Cynaliadwy i ysgogi datblygiad polisïau ac arferion datblygiad cynaliadwy, gan wneud argymhellion priodol i'r Gweithgor Cynaladwyedd.

3. Caffaeliad Cynaliadwy

Mabwysiadwyd Polisi a Chynllun Gweithredu Caffaeliad Datblygiad Cynaliadwy fel ymrwymiad at gaffaeliad cynaliadwy. Mae hyn yn edrych ar gostau ac effaith gydol oes nwyddau a gwasanaethau, ac yn gwerthuso perfformiad amgylcheddol ein cyflenwyr a chontractwyr.

4. Gwastraff

Rydym yn annog lleihau gwastraff drwy gynyddu ailgylchu, hyrwyddo ail ddefnydd a chwtogi ledled bob safle.

5. Ynni a Dŵr

Mabwysiadwyd Polisi Ynni fel cam sylweddol tuag at effeithiolrwydd ynni, ac i ddangos cefnogaeth yr Amgueddfa tuag at ostwng gollyngiadau nwyon tŷ gwydr. Drwy reoli ynni, a gweithredu systemau ar gyfer monitro a thargedu defnydd, mae Amgueddfa Cymru yn ceisio lleihau defnydd ynni a dŵr. Mae hefyd yn ymchwilio i ffynonellau arian grant a all fod ar gael ar gyfer mentrau arbed ynni a gwella strwythur.

6. Atal Llygredd

Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio lleihau ac osgoi rhyddhad a gollyngiad llygryddion a all achosi niwed amgylcheddol i'r awyr, tir neu ddŵr, a lleihau a diddymu llygredd sŵn lle bo'n ymarferol.

7. Trafnidiaeth

Mae Amgueddfa Cymru yn hyrwyddo ac yn annog y defnydd o drafnidiaeth amgylcheddol gyfeillgar yn ystod oriau gwaith, gan gynnwys rhannu ceir a thrafnidiaeth gyhoeddus, ac yn cefnogi dulliau sy'n lleihau'r angen i staff deithio rhwng safleoedd (e.e. defnydd priodol o fideo-gynadledda).

8. Bioamrywiaeth

Mae Amgueddfa Cymru yn ceisio amddiffyn, cadw, gwella ac adfer fflora a ffawna naturiol amrywiol bob safle.

9. Addysg

Mae Amgueddfa Cymru yn ymdrechu i annog datblygiad cynaliadwy drwy gynnwys materion datblygiad cynaliadwy yn ein dehongliad o bob pwnc, ac i ymgymryd ag ymchwil sy'n cyfrannu at ddealltwriaeth bioamrywiaeth yn rhanbarthol a byd-eang.

10. Amcanion a Thargedau

Cyfrifwyd bod defnydd ynni a thrafnidiaeth Amgueddfa Cymru yn cynhyrchu 5,406,959kg o CO2, ar sail defnydd yn 2010. Ein targed yw gostwng hyn gan 2% y flwyddyn.

11. Perfformiad yn 2010

Yn ystod 2010 gofynnodd Amgueddfa Cymru i Groundwork Walesa ddarparu cefnogaeth ymgynghorol gyda'r nod o gyrraedd Lefel 3 Draig Werdd. Hefyd cychwynnodd Amgueddfa Cymru ar berthynas ffurfiol gyda'r Ymddiriedolaeth Garbon, a edrychodd ar bob safle gan gynhyrchu cynllun gweithredu i dargedu mesurau lleihau ar gyfer ynni a dŵr. Mae'r gwaith hwn bellach yn cael ei weithredu.

Cyfarfu'r Fforwm Cynaladwyedd drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n parhau i oruchwylio projectau Amgueddfa Cymru o ran pob mater amgylcheddol.

Polisi Amgylcheddol

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnwys saith amgueddfa unigol ledled Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Amgueddfa Wlân Cymru, Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru, Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Amgueddfa Lechi Cymru, Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru; mae hefyd Canolfan Gasgliadau yn Nantgarw. Mae mynediad am ddim i'r amgueddfeydd, dan nawdd Llywodraeth Cynulliad Cymru. Y weledigaeth yw creu amgueddfa ddysg o safon fyd-eang.

Mae Amgueddfa Cymru yn ymwybodol bod ei gweithgareddau yn effeithio ar yr amgylchedd, ac yn ceisio lleihau effaith o'r fath lle bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl. Er bod Amgueddfa Cymru eisoes yn mabwysiadu arferion amgylcheddol da, gwelir hyn fel sylfaen ar gyfer datblygu gwelliant amgylcheddol parhaus. Er mwyn gwneud hyn byddwn yn:

Mae'r Polisi hwn yn gweithredu fel dogfen lywodraethol ar gyfer gosod gwelliannau a bydd yn ystyried barn staff a phartïon â diddordeb. Bydd yn cael ei adolygu o leiaf unwaith y flwyddyn, a'i adolygu lle bo angen.

+ Dangos sylwadau

Gadael sylw