O Lethrau Serth: Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina
(c) Amgueddfa Cerfiadau Caerreg Dazu, Chongqing, Tsieina
dazu_teachers.cy.pdf
Daw’r cerfiadau carreg hynafol sydd yn yr arddangosfa hon o demlau mewn ogofâu yn Dazu, Safle Treftadaeth y Byd ger Chongqing yn ne-orllewin Tsieina. Dechreuodd pobl naddu creigiau’r ardal hon tua chanol y seithfed ganrif, a datblygodd hyn am bedair canrif a mwy – o ddiwedd y nawfed ganrif tan y drydedd ganrif ar ddeg.
Bydd y nodiadau hyn yn eich helpu i baratoi ymweliad hunan-dywys i’r arddangosfa. Dim ond un dosbarth o blant fydd yn cael bod yn yr oriel ar y tro. Gallai’r plant dynnu lluniau yn yr oriel gyda phensil. Dewch â’ch papur/llyfrau braslunio eich hun os ydych am i’ch disgyblion wneud hyn.










